Skip to Main Content

A allaf apelio yn erbyn penderfyniad i wrthod fy nghais am Fathodyn Glas? 

Nid oes proses apelio statudol yn erbyn penderfyniad gan awdurdod lleol ar gais am Fathodyn Glas. 

Rydym yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru ond nid oes ganddynt y grym i ymyrryd wrth asesu achosion unigol. 

Os nad ydych yn cytuno gyda’r penderfyniad i beidio dyfarnu bathodyn glas i chi a bod gennych wybodaeth ychwanegol neu dystiolaeth y dymunwch ei chyflwyno na chafodd ei rhoi gyda’ch cais gwreiddiol, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt ar 01633-644644. Byddwn wedyn yn adolygu’r penderfyniad gan roi ystyriaeth i’r dystiolaeth ychwanegol. 

Os nad ydych yn cytuno gyda’r penderfyniad a wnaed i beidio dyfarnu bathodyn glas i chi ond nad oes gennych unrhyw wybodaeth ychwanegol neu dystiolaeth y dymunwch eu cyflwyno, byddwn yn edrych ar y penderfyniad eto ond mae’n annhebyg o gael ei newid. 

Faint mae Bathodyn Glas yn ei gostio? 

Mae Bathodynnau Glas unigol yng Nghymru yn rhad ac am ddim. Codir ffi o £10.00 am gerdyn newydd os caiff bathodyn ei golli. Mae Bathodynnau Glas Sefydliad yn costio £10.00. 

Mae fy Mathodyn Glas yn dod i ben yn y dyfodol agos. Pryd dylwn i wneud cais am fathodyn newydd? 

Dylech wneud cais o leiaf 6-8 wythnos cyn bod eich bathodyn cyfredol yn dod i ben. Caiff pob ail gais ei asesu o’r newydd hyd yn oed os ydych wedi derbyn bathodyn yn y gorffennol. 

Rwy’n rhannol ddall, a wyf yn cymhwyso yn awtomatig? 

Na, mae angen i ymgeiswyr fod wedi cofrestru’n ddall/bod â nam difrifol ar eu golwg a dangos eu ffurflen gofrestru BD8 neu CVI. 

Beth ddylwn i wneud gyda bathodyn a ddaeth i ben? 

Dylid dychwelyd pob bathodyn a ddaeth i ben i’r Ganolfan Gyswllt neu eich Hyb Cymunedol lleol. 

A wyf angen cefnogaeth fy meddyg teulu i gefnogi fy nghais? 

Na, byddwn yn cysylltu â chi os ydym angen mwy o wybodaeth. 

Mae deiliad y Bathodyn Glas wedi marw’n ddiweddar. Beth ddylwn i wneud gyda’r bathodyn? 

Gofynnir i chi ddychwelyd y bathodyn i’r Ganolfan Gyswllt neu eich Hyb Cymunedol lleol. 

A allaf gael bathodyn glas os nad wyf yn gyrru? 

Gallwch.