Skip to Main Content

Ynglŷn â’r cynllun bathodyn glas

Mae’r cynllun bathodyn glas yn darparu trefniant cenedlaethol o gonsesiynau parcio i bobl sydd ag anawsterau cerdded difrifol, sy’n teithio naill ai fel gyrwyr neu fel teithwyr. Mae’r cynllun yn caniatáu i ddeiliaid bathodynnau barcio’n agos at eu cyrchfan, ond mae’r consesiynau cenedlaethol dim ond yn berthnasol i barcio ar y stryd.

Ni chodir tâl am fathodynnau glas yng Nghymru.

Mae’r rhan fwyaf o’n meysydd parcio yn cynnig mannau parcio i bobl anabl. Maent yn caniatáu i ddeiliaid bathodynnau glas barcio mor agos i’w cyrchfan â phosibl (gweler ‘Ble mae’r meysydd parcio’, isod).

Gellir cyflwyno hysbysiad tâl cosb os na ddangosir bathodyn glas dilys.

Mae defnydd bathodynnau mewn modd anghyfreithlon yn cario cosb uchaf o £1000. Ni ddylai deiliaid bathodyn glas barcio ar linellau melyn dwbl.

Am ba hyd alla i barcio?

Gall deiliaid bathodyn glas barcio am ddim am gyfnod diderfyn mewn unrhyw gilfach wedi’u marcio ym meysydd parcio’r cyngor (mae hyn yn cynnwys parcio naill ai mewn cilfach pobl anabl neu gilfach gyffredinol), dim ond bod eich bathodyn glas yn cael ei arddangos yn glir.

Ble mae’r meysydd parcio?

Cliciwch ar y ddolen isod ar gyfer lleoliadau ein darpariaeth barcio yn Y Fenni, Cil-y-coed, Cas-gwent, Goetre, Gilwern, Trefynwy a Brynbuga, a manylion y ddarpariaeth parcio i bobl anabl o fewn y lleoliadau hynny: https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/meysydd-parcio/ein-meysydd-parcio/

BATHODYN GLAS – COVID-19 (y Coronafeirws)

Mae’r Adran Bathodyn Glas yn parhau i weithredu yn ystod yr achosion COVID-19.

  • Os oes gennych fynediad i’r rhyngrwyd gallwch gwblhau cais ar-lein ar https://www.gov.uk/apply-blue-badge a bydd hyn yn eich galluogi i lanlwytho eich holl ddogfennau ategol. Os na allwch lanlwytho eich dogfennau, cwblhewch y ffurflen ac anfonwch eich dogfennau at: Cyngor Sir Fynwy, Neuadd y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. Ychwanegwch amlen wedi’i chyfeirio a’i stampio i’n galluogi i ddychwelyd eich dogfennau.
  • Os hoffech ddychwelyd ffurflen gais sydd eisoes wedi’i chwblhau, a fyddech cystal â’i dychwelyd yn y post at: Cyngor Sir Fynwy, Neuadd y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA.
  • Os nad oes gennych fynediad i’r rhyngrwyd, gallwch ofyn am ffurflen gais drwy ffonio 01633 644644 ond cofiwch y gallai hyn gymryd llawer mwy o amser nag arfer.

PWYSIG

Gwefannau sy’n cynnig Gwasanaethau Bathodyn Glas

O bryd i’w gilydd mae gwefannau’n ymddangos yn cynnig cymorth gyda cheisiadau Bathodyn Glas ac yn codi ffi. Ni chodir tâl am Fathodynnau Glas yng Nghymru felly peidiwch â gwneud cais am fathodyn glas o unrhyw le heblaw Cyngor Sir Fynwy neu www.gov.uk. Os ydych wedi cael ffi wedi’i godi am gais am fathodyn glas, bydd angen i chi gysylltu â’r adran Safonau Masnach.