Skip to Main Content

Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i bob plentyn o oedran ysgol gorfodol (rhwng 5 ac 16) dderbyn addysg lawn amser, addas, yn yr ysgol neu mewn lleoliad arall. Fel rhiant, rydych yn gyfrifol am sicrhau bod hyn yn digwydd. Gallwch gyflawni hyn trwy gofrestru’ch plentyn mewn ysgol neu trwy ddewis addysgu eich plentyn adref. Bydd angen i rieni rhoi gwybod i Bennaeth ysgol eu plentyn yn ysgrifenedig os ydynt yn ystyried yr opsiwn i addysgu adref. Os nad yw’r plentyn wedi cofrestru mewn ysgol eto, dylai’r rhieni roi gwybod i’r Awdurdod Lleol.

Unwaith bod eich plentyn wedi cofrestru mewn ysgol, rydych chi fel rhiant yn gyfrifol am sicrhau eu bod yn mynychu’r ysgol yn rheolaidd. Os yw’ch plentyn yn methu â mynychu’n rheolaidd, hyd yn oed heb i chi wybod, gall yr Awdurdod Lleol gymryd camau cyfreithiol yn eich erbyn. Mae’r Awdurdod Lleol yn gyfrifol am sicrhau bod rhieni’n cyflawni eu cyfrifoldebau.

Mae rhieni’n gyfrifol am sicrhau bod eu plant cofrestredig yn mynychu’r ysgol yn rheolaidd.

  • Ble mae’n nodi rhieni, mae hyn yn cyfeirio at rieni, gofalwyr neu warcheidwaid

Absenoldeb awdurdodedig: A yw’n ganiataol i’ch plentyn fod i ffwrdd o’r ysgol?

Gall fod adegau pan fod yn rhaid i’ch plentyn golli ysgol os ydynt yn sâl. Pan mae’ch plentyn yn rhy sâl i fynychu ysgol, dylech gysylltu â’r ysgol ar fore cyntaf yr absenoldeb a rhoi gwybod i’r ysgol os yw’r absenoldeb yn parhau yn hirach na diwrnod.

Efallai bydd hefyd rhaid i blant fynychu apwyntiadau meddygol neu ddeintyddol yn ystod amser ysgol. Fodd bynnag, dylai rhieni wneud pob ymdrech i drefnu apwyntiadau rheolaidd, megis archwiliadau deintyddol ar ôl ysgol neu yn ystod gwyliau’r ysgol.

Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr ac os yw rhieni am ofyn os yw eu plant yn gallu cael amser i ffwrdd am resymau eraill, y peth doeth byddai i gysylltu â’r Pennaeth oherwydd nhw yw’r unig rai sy’n gallu awdurdodi absenoldebau yn ystod amser ysgol.

Nid yw pen-blwyddi a thripiau siopa yn rhesymau derbyniol dros absenoldebau a ni fyddant yn cael eu hawdurdodi. Os yw’ch plentyn yn mynd i fod yn absennol am unrhyw reswm, mae’n rhaid i chi gysylltu â’r ysgol.