Gall rhentu yn y sector rhentu preifat fod yn ddewis hyfyw ac addas i gael tai cymdeithasol am nifer o resymau. Gall gynnig ateb cyflymach i chi gydag ychydig iawn o amser aros, a mwy o ddewis a hyblygrwydd eiddo mewn ardaloedd yr hoffech chi fyw ynddynt.
Gallwn gynnig y cyngor a’r cymorth canlynol wrth ddod o hyd i lety priodol yn y Sector Rhentu Preifat.
Cytundebau Tenantiaeth;
Deall eich rôl; cyfrifoldeb a hawliau fel tenant;
Deall rôl, cyfrifoldeb a hawliau’r Landlord;
Materion atgyweirio;
Cofrestru Landlordiaid:
https://www.rhentudoeth.llyw.cymru/cym/tenant/; https://www.rhentudoeth.llyw.cymru/cym/check-register/
Yn ogystal, gall y tîm weithiau gynnig cymorth ariannol mewn perthynas â’r canlynol:
Rhent o Flaen Llaw neu gostau eraill sy’n gysylltiedig â sicrhau llety.
Os ydych chi ar hyn o bryd yn rhentu eiddo oddi wrth landlord yn uniongyrchol neu drwy asiantau gosod, gallwn ni hefyd helpu gyda’r canlynol:
Adfeiliad eiddo;
Ôl-ddyledion rhent;
Dadfeddiannau;
Mynediad anghyfreithlon neu fathau eraill o aflonyddu;
Unrhyw faterion tenantiaeth/landlord arall megis adneuon
Os oes gennych broblem gyda’ch tenantiaeth gyfredol, ceisiwch gyngor cyn gynted ag y bo modd ar 01633 644644.