
Arweinydd Cyfathrebu – Infuse (secondiad yn bosib)
Mae Infuse yn dymuno Apwyntio Arweinydd Cyfathrebu creadigol, arloesol ac effeithiol. Os ydych yn chwilio am gyfle i fod yn rhan o raglen gwasanaeth cyhoeddus rhanbarthol, arloesol sydd yn ceisio creu newid a gwelliannau, yna dylech barhau i ddarllen.
Byddwn angen i chi gynllunio o flaen llaw ac ymateb i ofynion sydd yn newid. Rydym yn gwneud yr hyn yr ydym yn ei bregethu, sef adolygu a gwerthuso, cynllunio a diwygio ein gwaith er mwyn sicrhau ei fod yn cael yr effaith fwyaf bosib, ac nid oes dim byd yn rhy bwysig i’w newid/gwella.
Byddwch yn cael eich integreiddio i mewn i’r tîm Infuse er mwyn eich helpu i adnabod cyfleoedd ar gyfer cyfathrebu a chyhoeddusrwydd.
Byddwch yn cael eich cefnogi gan holl dîm Infuse, gyda phob aelod yn meddu ar gyfoeth o sgiliau a phrofiad a phawb yn ceisio helpu arloesi ar gyfer dyfodol ein gwasanaethau cyhoeddus.
Rydym am gael syniadau a chysyniadau i ehangu ein dylanwad a sicrhau bod ein negeseuon yn cyrraedd y bobl gywir.
Mae Infuse yn rhaglen sydd yn gofyn i bobl i herio’r drefn, a’ch her chi yw llywio’r rhaglen ac ennyn brwdfrydedd y rhanbarth tuag at y rhaglen, y cynnydd, cyraeddiadau a chanlyniadau.
Mae Infuse yn rhaglen arloesi ac ymchwil hollol newydd sydd wedi ei dylunio i adeiladu sgiliau a chapasiti ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus y dyfodol. Byddwch yn gweithio fel rhan o Dîm Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu Cyngor Sir Fynwy er mwyn datblygu a gweithredu Strategaeth Gyfathrebu Infuse.
Yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r deg awdurdod lleol sydd yn rhan o Ranbarth Dinas Caerdydd (RhDC), Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Prifysgol Caerdydd, Y Lab a Nesta – mae Infuse yn ceisio caniatáu’r Sector Cyhoeddus yng Nghymru i ddatblygu sgiliau newydd er mwyn ystyried sefyllfaoedd gwahanol, datblygu prototeipiau yn gyflym, arbrofi a chynnal ymchwil a gwaith datblygu.
Mae Infuse yn cael ei arwain gan Gyngor Sir Fynwy, ar ran Bargen Ddinesig RhDC (Arweinydd Strategol) a’r deg partner awdurdod lleol ac mae’n cael ei gefnogi gan y Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd drwy raglen Llywodraeth Cymru, Blaenoriaeth 5: Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus a Gweithio Rhanbarthol. Mae Cyngor Sir Fynwy wedi bod yn ail-ystyried ei rôl a’i bwrpas yn newid tirwedd y sector cyhoeddus am nifer o flynyddoedd ac wedi bod yn ail-ddylunio ei fodel gweithredu er mwyn cwrdd â gofynion cenedlaethau’r dyfodol. Mae Infuse, felly, yn cynnig cyfle go iawn i’r Cyngor, i ystyried dyfodol y ffordd y mae gwasanaethau yn cael eu darparu drwy gyfrwng rhaglen o arwain agweddau a fydd yn adnabod ac yn cefnogi gofynion sgiliau’r dyfodol o ran y gweithlu a’r Uwch Dîm Rheoli.
Er bod y rôl hon wedi ei lleoli o fewn Cyngor Sir Fynwy, sef y Prif Awdurdod/ Buddiolwr, bydd y rôl hon yn gweithio’n agos gyda Swyddfa Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ar Y Lab, Hyb Arloesi Gwasanaethau Cyhoeddus er mwyn helpu dylunio, cefnogi a rheoli’r Rhaglen gyffrous newydd hon.
Cyfeirnod Swydd: YS023
Gradd: BAND G SCP 23-27 £30,051-£33,820
Oriau: 37 yr wythnos (opsiynau gweithio hyblyg ar gael)
Lleoliad: Neuadd y Sir Brynbuga gyda gweithio ystwyth
Dyddiad Cau: 09/12/2022 12:00 pm
Dros dro: Ydy (Cyfnod o ddwy flynedd wedi ei ariannu gan y Gronfa Gydmeithas Ewropeaidd tan fis Rhagfyr 2023)
Gwiriad DBS: Nid oes angen gwiriad