Mae Cyngor Sir Fynwy wrthi’n adolygu’r gwasanaeth gwastraff gardd.
Caiff costau gwasanaeth casglu gwastraff gardd eleni eu hamcangyfrif ar £660,000 y flwyddyn o gymharu ag incwm a gynhyrchwyd o £330,000.
Nid yw’r casgliad gwastraff gardd yn wasanaeth statudol ac ar adeg o bwysau cyllideb ariannol mor eithafol ni all y cyngor fforddio parhau i roi cymaint o gymhorthdal i’r gwasanaeth.
Dynodwyd y bydd newid i wasanaeth bin olwyn bob bythefnos yn gostwng costau casglu a bydd ganddo hefyd fuddion iechyd a diogelwch ac amgylcheddol eraill.
Fel rhan o’r adolygiad fe wnaethom lansio ymgynghoriad cyhoeddus i gael adborth preswylwyr ar y dewis rhwng y bagiau amldro presennol a’r biniau olwyn a’r prisiau y byddent yn barod i’w talu.
Mae’r arolwg gwastraff gardd wedi dod i ben a hoffem ddiolch i bawb a roddodd eu hamser i adael i ni wybod sut olwg maent eisiau i’r gwasanaeth ei gael yn y dyfodol.
Dyma ganlyniadau’r arolwg.
Canlyniadau arolwg
Cawsom 6112 ymateb.



Dyma rai o’r rhesymau a roddodd pobl i gyfiawnhau eu dewis uchod.
Rheswm am symud i gasgliad bin olwyn bob bythefnos | Nifer y bobl a roddodd y rheswm yma |
Byddai bin olwyn yn rhwyddach ei ddefnyddio | 865 |
Mae bin olwyn yn well gwerth am arian | 689 |
Dim ond casgliad bob bythefnos rwyf ei angen | 534 |
Mae bin olwyn yn daclusach ac nid yw’n chwythu i ffwrdd | 339 |
Bydd yn rhwyddach symud/trin bin olwyn | 291 |
Byddai bin olwyn yn rhoi gwell storfa ar gyfer fy ngwastraff gardd | 264 |
Mae bin olwyn yn dal mwy | 226 |
Byddai bin olwyn yn fwy cyfeillgar i’r amgylchedd | 82 |
Rwy’n bensiynwr a byddai bin olwyn yn rhwyddach i fi | 16 |
Cyfanswm | 3306 |
Rheswm a roddir dros aros gyda chasgliad bag bob wythnos | Nifer y bobl a roddodd y rheswm yma |
Byddai’n well gennyf gasgliad bob wythnos | 892 |
Nid oes gennych unrhyw le i gadw bin | 553 |
Mae bagiau yn rhwyddach eu defnyddio | 412 |
Mae bagiau yn rhwyddach eu symud/trin | 291 |
Nid wyf eisiau talu mwy na £18 | 254 |
Mae gennyf stepiau ac ni allwn symud bin i fyny nac i lawr | 189 |
Mae’r bagiau yn daclusach | 81 |
Nid wyf angen cymaint o le ag sydd mewn bin olwyn | 54 |
Rwy’n aros mewn tŷ teras a byddai’n rhaid i mi symud bin drwy’r tŷ | 53 |
Mae bagiau yn fwy cyfeillgar i’r amgylchedd | 45 |
Rwy’n bensiynwr a byddai bagiau yn rhwyddach i fi | 31 |
Cyfanswm | 2855 |
Rydym yn wir yn gwerthfawrogi cyfraniad preswylwyr i’r broses i roi adborth mor werthfawr i ni.
Hoffem fanteisio ar y cyfle i drin ychydig o’r ymholiadau a godwyd yn yr ymateb i’r arolwg:
Pe byddai penderfyniad yn cael ei wneud i wasanaeth bin olwyn bob bythefnos:
- Gall cwsmeriaid brynu nifer o finiau felly ni fydd cyfyngiad ar gapasiti
- Ni chodir unrhyw dâl dosbarthu, bydd cost y gwasanaeth blynyddol yn cynnwys dosbarthu
- Ar gyfer yr aelodau hynny o’r cyhoedd na all drin bin olwyn yn gorfforol neu lle nad oes unrhyw fan storio o flaen eu cartrefi, gwneir eithriadau a chynigir datrysiad arall.
Bydd Cynghorwyr yn ystyried canlyniadau’r arolwg mewn cyfarfod cabinet ym mis Hydref ynghyd â nifer o ffactorau eraill yn cynnwys cost, effaith ar yr amgylchedd ac iechyd a diogelwch wrth ddod i benderfyniad am unrhyw newidiadau i’r gwasanaeth yn y dyfodol.