Tipio anghyfreithlon yw gadael unrhyw wastraff ar dir nad oes â thrwydded i dderbyn gwastraff. Gall tipio anghyfreithlon fod yn beryglus, llygru tir a dyfrffyrdd ac mae’n ddrud iawn i’r trethdalwyr ei glirio. Os cewch eich dal cewch eich erlyn a dirwyo.
Gallai gwastraff gynnwys:
- nwyddau trydanol
- celfi
- gwastraff adeiladu
- cemegion
- gwastraff domestig neu fasnachol
Dyletswydd Gofal
Cofiwch – os ydych yn gofyn i rywun arall (e.e. adeiladwr neu gontractwr) gael gwared â gwatraff ar eich rhan, mae’n rhaid i chi sicrhau eu bod yn gludwr gwatraff cofrestredig. Chi sy’n gyfrifol am wirio eu bod wedi cofrestru, felly dylech bob amser ofyn am weld eu tystysgrif.
Dylech bob amser gael derbynneb yn cadarnhau yr hyn y maent wedi eu gymryd, lle byddant yn gwaredu ag ef a manylion unrhyw daliad a wnaethpwyd. Gwnewch nodyn o’u henw, math cerbyd a rhif cofrestru a’r dyddiad yr aethant â’r gwastraff i ffwrdd.
Mae manylion cludwyr gwastraff cofrestredig ar gael ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.
I gael mwy o wybodaeth, lawrlwythwch y dalenni dilynol:
Perchennog y tir sy’n gyfrifol am glirio tipio anghyfreithlon ar dir preifat.
Gwneud Adroddiad
Gallwch wneud adroddiad yn ddienw am broblem ond drwy gofrestru eich manylion gallwch olrhain cynnydd eich adroddiad a chael yr wybodaeth ddiweddaraf fel y caiff ei phrosesu.
Os ydych eisoes wedi cofrestru yn defnyddio ap Fy Sir Fynwy, sydd ar gael ar ddyfeisiau Apple, Android a Windows, yna gallwch ddefnyddio’r un cyfeiriad e-bost a chyfrinair i fewngofnodi.