Mae Gwasanaethau Gwastraff a Strydoedd yn cyflwyno cyfoeth o wasanaethau i breswylwyr a busnesau’r sir, a thu hwnt. Ein cyd-weledigaeth, fel gwasanaeth, yw darparu a hyrwyddo Sir Fynwy lân, diogel a chost-effeithlon sy’n diwallu anghenion ein preswylwyr a’n cwsmeriaid nawr ac yn y dyfodol. Gobeithiwn wneud hyn drwy ddarparu ein gwasanaethau mewn ffordd dibynadwy, hyblyg ac effeithiol o ran cost sy’n diwallu anghenion ein preswylwyr a’n cwsmeriaid nawr ac yn y dyfodol.

Mae gwasanaethau amlwg yn cynnwys torri gwair a chasglu sbwriel ond rydym hefyd yn cynnig archwiliadau meysydd chwarae, gwastraff busnes ar gyfer cwsmeriaid rheolaidd neu ar gyfer digwyddiadau penodol a llawer gwasanaethau eraill. Mae rhestr lawn ar gael ar y dolenni islaw.