Skip to Main Content

Pam fod Cyngor Sir Fynwy yn cau Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi?
Mae’n anffodus fod yn rhaid i ni ostwng unrhyw ddarpariaeth gwasanaeth ond mae pwysau ar y gyllideb ynghyd â pherfformiad ailgylchu isel yn golygu y cynhaliwyd adolygiad ar bob safle. Cytunodd y Cabinet “I resymoli darpariaeth gwasanaeth sy’n cynnwys y safle sy’n perfformio waethaf yn Sir Fynwy ym Mrynbuga o 31 Mawrth 2020 a chyflwyno oriau agor diwygiedig yn y tri safle arall o 1 Ebrill 2021”.

Pam fod Cyngor Sir Fynwy yn cau canolfan HWRC Brynbuga?
Roedd y penderfyniad i gau canolfan HWRC Brynbuga yn seiliedig ar nifer cynyddol o broblemau a ddynodwyd yn yr adroddiad.

A fydd hyn yn gostwng ailgylchu?
Y safle ym Mrynbuga sydd â’r perfformiad isaf o’r holl ganolfannau ailgylchu yng Nghymru. Mae’r mwyafrif helaeth (50%) yn wastraff bag du a dangosodd dadansoddiad o hynny y gallai 58% gael ei ailgylchu’n rhwydd mewn casgliad ochr palmant. Oherwydd ei faint a’i leoliad, caiff y safle ym Mrynbuga ei ddefnyddio’n fwy fel tomen hen ffasiwn nag fel canolfan ailgylchu.

Mae’r safle yn rhy fach i ddarparu’r ystod llawn o gyfleusterau ailgylchu sydd ar gael yn Llan-ffwyst a Five Lanes. Bydd cael mynediad i gyfleusterau ailgylchu ychwanegol yn cynyddu ailgylchu ar gyfer pobl sy’n defnyddio Brynbuga ar hyn o bryd.

A fydd gennych lai o ailgylchu i’w werthu?
Ychydig iawn o ffrydiau ailgylchu sy’n ennill incwm ac mae nifer y tunelli metrig yn fach iawn o gymharu gyda’r cyfanswm gwastraff. Mae cost yn gysylltiedig gyda thrin gwastraff p’un ai’n ailgylchu, compostio neu waredu. Mae ailgylchu a chompostio yn costio llai na gwaredu ond mae cost yn dal i fod.

Y canlyniad gorau i bawb yw gostwng faint o wastraff a gynhyrchant, prynu llai a gwneud i eitemau barhau’n hirach. Mae compostio adref, gwerthu ail-lein ar eitemau y gellir eu hailddefnyddio neu mewn arwerthiannau cist car, cyfrannu eitemau i’r Siop Ailddefnyddio yng Nghanolfan Gwastraff Cartrefi Llan-ffwyst, trosglwyddo eitemau i deulu, ffrindiau a chymdogion yn gostwng gwastraff ac yn cefnogi’r economi gylchol.

Faint o safleoedd mae’n rhaid i Gyngor Sir Fynwy eu darparu i breswylwyr waredu â gwastraff?
Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd statudol i gael un safle yn y Sir ac nid yw’r model gweithredu presennol o bedwar safle yn gynaliadwy erbyn hyn. Mae mwyafrif awdurdodau cyfagos yn gweithredu un safle ac maent hefyd wedi cyflwyno oriau agor tymhorol.

A fydd preswylwyr o Frynbuga a’r cylch yn gorfod teithio ymhellach a chynyddu ôl-troed carbon?
Ni allwn fforddio dal i waredu â sbwriel a pheidio ailgylchu, nid yw’r gost i’r pwrs cyhoeddus a’r blaned yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Mae dros 50% o’r deunydd sy’n mynd i Frynbuga yn wastraff “bag du” y gellid ei ailgylchu mewn casgliad palmant. Mae casgliadau ailgylchu palmant yn gostwng yn sylweddol effaith carbon cludo gwastraff o gymharu gyda theithiau car unigol.

Aiff dros 500 tunnell fetrig o wastraff “bag du” i Brynbuga fel teithiau unigol. Gallai’r gwastraff “bag du” henw gael ei ailgylchu ar y palmant a hefyd osod y gweddill allan i gael ei gasglu. Mae’r tabl yn dangos cyfansoddiad gwastraff a welwyd mewn bagiau du yn HWRC Brynbuga.

Bwyd38%
Tecstilau8%
Papur/cerdyn8%
Gardd4%
DIY3%
Gwydr3%
Metel2%
Ailgylchu arall1%
Gweddilliol34%

Bydd pobl yn teithio ymhellach i gael gwared â gwastraff, a yw hyn yn waeth i’r amgylchedd?
Gallai mwyafrif helaeth y deunydd a gaiff ei waredu ym Mrynbuga gael ei gasglu a’i ailgylchu ar garreg y drws. Pe byddai pawb yn ailgylchu ar garreg y drws, byddid yn gostwng y teithiau unigol a byddai ansawdd aer yn y dref yn gwella.

Faint o safleoedd sydd eu hangen fesul pen o boblogaeth a pha mor bell y gellid disgwyl i breswylwyr deithio?
Caiff HWRC eu darparu yn unol ag Adran 51 Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990. Mae’n dweud y dylai safle gael ei leoli naill ai o fewn yr awdurdod neu’n rhesymol hygyrch i breswylwyr ac y dylai fod ar agor ar bob amser rhesymol yn cynnwys o leiaf un ddydd Sadwrn. Nid yw’n cynnwys amodau deddfwriaethol pellach.

Roedd adroddiad yr Asesiad Cenedlaethol o Safleoedd Amwynder Dinesig (NACAS), a gyhoeddwyd yn 2004, yn argymell y dylai darpariaeth HWRC gael ei seilio ar y ffactorau dilynol:
Dalgylchoedd o dair milltir mewn ardaloedd trefol a saith milltir mewn ardaloedd gwledig yn cwmpasu mwyafrif helaeth y preswylwyr.

Amser gyrru i safle ar gyfer mwyafrif helaeth preswylwyr o 20 munud mewn ardaloedd trefol a 30 munud mewn ardaloedd gwledig; er os oes modd yn llai na hyn gan 10 munud ym mhob achos.

Un safle fesul 143,750 o breswylwyr, gydag uchafswm trwybwn ar gyfer unrhyw safle o 17,250 tunnell fetrig bob blwyddyn.

Gall preswylwyr o Frynbuga a’r cylch gyrraedd Llan-ffwyst, Five Lanes neu Lanfihangel Troddi o fewn 20 i 30 munud o amser gyrru. Bydd gan Sir Fynwy 3 safle ar gyfer 94,000 o breswylwyr o gymharu â’r canllaw o un safle fesul 143,750 o breswylwyr.

Onid yw’r arbedion yn fach o gymharu gyda golli gwasanaeth lleol?
Mae gan y safle gostau rhedeg uchel iawn o gymharu gyda thrwybwn tunelli metrig yn ein holl safleoedd eraill. Mae gan safle Llan-ffwyst un aelod ychwanegol o staff ond mae’n trin bron wyth gwaith cymaint o ddeunydd. Mae’r arbedion o £30,000 o gau’r safle yn gymharol fach ond gallai’r dirwyon posibl ar gyfer colli’r targedau ailgylchu fod mor uchel â £120,000 ar gyfer gwastraff a gael ei waredu ym Mrynbuga.

Beth am y staff ar y safle?
Caiff staff eu hadleoli i safleoedd eraill ac ni ddisgwylir unrhyw golledion swydd o’r newidiadau hyn. Bydd angen staff ychwanegol oherwydd cyflwyno polisïau bag du yn y safleoedd eraill.

A oedd Brynbuga wedi bod yn broblem o’r blaen?
Nid yw’r problemau ym Mrynbuga yn newyddion ac mae adroddiadau wedi tynnu sylw at y problemau dros y blynyddoedd. Cyflwynwyd newidiadau i’r maes parcio i ddarparu ar gyfer y cerbyd sgip 44t yn 2017 yn dilyn nifer gynyddol o gwynion am ddamweiniau y bu bron iddynt ddigwydd gan ymwelwyr i’r maes parcio. Roedd colli lleoedd parcio ceir hefyd yn bryder sylweddol i breswylwyr a chafodd y Cyngor gwynion gan y preswylwyr, busnesau ac ymwelwyr am hyn. Gallai cau’r safle ddarparu 16 lle parcio ychwanegol.

Nid yw grisiau’r gantri yn cyflawni canllawiau presennol Iechyd a Diogelwch ar gyfer cyfleusterau gwastraff. Dywed adroddiad NACAS, er mwyn cynyddu ailgylchu, y dylai safleoedd ddefnyddio systemau ramp rhannu lefel i ostwng codi a gwneud cyfleusterau yn hygyrch i bawb.

Mae angen uwchraddio draeniad a’r wyneb ar y safle ac nid yw’r goleuadau yn ateb gofynion staff na phreswylwyr yn ystod y gaeaf.

Beth am bobl heb geir?

Dim ond preswylwyr mewn ceir ddylai ddefnyddio’r safle ac ni chaiff pobl eu hynnog i gario gwastraff ar droed i unrhyw safle. Mae nifer o breswylwyr yn parhau i gerdded i’r safle ym Mrynbuga gyda symiau bach o wastraff ond mae’r rhain yn symiau bach iawn a ddylai gael eu trin mewn casgliadau palmant. Daw eitemau swmpus i’r safle mewn cerbyd. Os oes gan breswylwyr eitemau swmpus i waredu â nhw ac nad oes ganddynt gerbyd, gallant gysylltu â Homemakers fydd yn casglu am gost bychan, o 3 eitem swmpus am £15 http://www.hmcrecycling.co.uk/bulk-collection.html

Pa newidiadau sy’n cael eu cyflwyno yn y safleoedd eraill i gynyddu ailgylchu?
Rydym wedi adolygu perfformiad ym mhob safle ac mae angen ailgylchu ym mhob safle. Mae awdurdodau cyfagos wedi cyflwyno didoli bagiau du yn llwyddiannus iawn. Cyflwynir didoli bagiau du yn y safleoedd eraill yr un pryd. Gofynnir i breswylwyr sy’n dod â gwastraff du i’r safle i ddidoli’r gwastraff i leihau ailgylchu.

Byddwn yn cyflwyno cefnogaeth ychwanegol mewn casgliadau palmant i gynyddu ailgylchu a helpu preswylwyr i ostwng nifer y teithiau a wnânt i ganolfannau ailgylchu gwastraff cartref.

Bu’r siop ailddefnyddio yn Llan-ffwyst yn llwyddiannus iawn a rydym yn gobeithio agor safle tebyg yn Five Lanes.

Byddwn yn parhau i ymchwilio mwy o opsiynau ailgylchu yn y safleoedd i gynnwys matresi, plastig caled, carpedi ac yn y blaen. Maent yn ddrud i’w hailgylchu ond drwy gynyddu ailgylchu ar y palmant, bydd yr arbedion yn cefnogi ailgylchu eitemau mwy costus.

A fydd y safleoedd eraill yn cau hefyd?

Byddwn yn parhau i adolygu gwasanaethau a darpariaeth ond ar hyn o bryd dim ond Brynbuga y bwriedir ei gau.  Aiff y contract i dendr yn 2020 a byddwn yn anelu i leihau costau a chynyddu darpariaeth gwasanaeth. Mae llawer o awdurdodau yn gostwng oriau yn ystod cyfnod y gaeaf. Mae mis Rhagfyr, mis Ionawr a mis Chwefror yn fisoedd tawelach ar y safle yn neilltuol ddiwedd y prynhawn, a gall gostwng yr oriau yn ystod y cyfnod hwn gynnig arbedion gwell na chau yn ystod y dydd yn yr haf.

A fydd hyn yn cynnwys tipio anghyfreithlon?

Nid yw darpariaeth HWRC yn dylanwadu’n uniongyrchol ar dipio anghyfreithlon, a dim ond lleiafrif bach o’r cyhoedd sy’n troseddu. Mae tipio sbwriel yn anghyfreithlon ac nid yw’r pobl sy’n tipio’n anghyfreithlon yn gwneud unrhyw ymdrech i waredu neu drin gwastraff yn iawn.

Cyfrifoldeb deiliad tai yw gwaredu’n gyfreithiol a’u gwastraff a gall trosglwyddo gwastraff i fasnachwyr twyllodrus sy’n mynd ymlaen i dipio anghyfreithlon gael Hysbysiad Cosb Sefydlog o £300, dirwyon hyd at £50,000 a charchariad.

Nid yw newidiadau mewn darpariaeth gwasanaeth dros y 3 blynedd diwethaf wedi gweld cynnydd sylweddol mewn tipio anghyfreithlon. Bydd gan y sir 3 safle ar agor 170 awr yr wythnos ac o fewn 30 munud mewn car i 99% o’r preswylwyr. Nid oes unrhyw esgus dros dipio anghyfreithlon. Profwyd fod gweithredu gorfodaeth yn arwain at erlyn yn gostwng tipio anghyfreithlon. Byddwn yn parhau i fonitro hyn ac yn gweithio gydag awdurdodau cyfagos a phartneriaid i erlyn unrhyw un a gaiff ei ddal yn tipio’n anghyfreithlon.