Skip to Main Content

Mae’r holl Dai Fforddiadwy yn Sir Fynwy yn cael eu hysbysebu a’u gosod drwy ein Cofrestr Tai Cyffredin,  Monmouthshire Homesearch. I chwilio a gwneud cais am eiddo, bydd angen i chi gofrestru ar y system hon.

Mae cartrefi fforddiadwy yn cael eu perchnogi a’u rheoli’n bennaf gan ein partneriaid Cymdeithas Tai: Monmouthshire Housing AssociationMelin HomesPoblUnited Welsh.

Mae mathau gwahanol o dai fforddiadwy ar gael:

  • Rhent Cymdeithasol – eiddo wedi’i osod ar renti meincnod, dyma’r rhan fwyaf o gartrefi fforddiadwy ledled Sir Fynwy
  • Rhent Canolradd – eiddo wedi’i osod ar gyfradd uwch na lefelau rhent cymdeithasol ond yn is na lefelau rhent y farchnad
  • Perchentyaeth Cost Isel – eiddo sydd ar gael i’w prynu gyda benthyciad ecwiti gan Gymdeithas Tai sy’n golygu mai dim ond rhwng 50% a 70% o werth yr eiddo y mae’n ofynnol i brynwyr ei ariannu. Nid oes unrhyw rent, llog nac unrhyw daliadau eraill sy’n gysylltiedig â’r benthyciad, caiff hyn ei ad-dalu pan werthir yr eiddo yn y dyfodol.

Mae’n bosibl hefyd y bydd opsiwn i bobl leol adeiladu eu cartref fforddiadwy eu hunain i ddiwallu eu hanghenion tai eu hunain mewn rhai amgylchiadau drwy’r polisi eithriadau gwledig, ac mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y polisi ’Adeiladu Eich Tŷ Fforddiadwy Eich Hun’.

Datblygu Tai Fforddiadwy

Grant Tai Cymdeithasol

Darperir cyllid Grant Tai Cymdeithasol gan Lywodraeth Cymru i gefnogi datblygiad Tai Fforddiadwy. Mae’r Cyngor yn gweithio gyda’n partner Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, Monmouthshire Housing AssociationMelin Homes a Pobl, i ddarparu cartrefi fforddiadwy ledled Sir Fynwy.

Datblygiadau Adran 106

Bydd yn ofynnol i bob datblygiad tai dros faint penodol wneud darpariaeth ar gyfer tai fforddiadwy. Mae gofynion polisi’r Cyngor ar gyfer tai fforddiadwy wedi’u nodi yn y Canllaw Cynllunio Atodol  Tai Fforddiadwy. Bydd nifer a math y tai fforddiadwy sydd eu hangen yn cael eu nodi mewn cytundeb Adran 106.

Angen am Dai Fforddiadwy

Mae galw mawr am dai fforddiadwy ledled Sir Fynwy. Mae prisiau tai cyfartalog ymhlith yr uchaf yng Nghymru tra bod y sector rhentu preifat yn cael ei nodweddu gan gyflenwad byr a phrisiau rhent cynyddol. Mae’r ffactorau hyn yn cyfuno i’w gwneud hi’n anodd i bobl leol i gael mynediad i berchentyaeth neu rentu’n breifat. Mae hyn yn arwain at niferoedd uchel o bobl yn cofrestru ar gyfer tai fforddiadwy ac amseroedd aros hir. Mae Asesiad Marchnad Dai Leol  y Cyngor yn rhoi mwy o fanylion am farchnad dai Sir Fynwy a’r angen am dai fforddiadwy.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Sally Meyrick – Swyddog Strategaeth a Pholisi – Tai Fforddiadwy

Ffôn: 01633644541

Ebost: sallymeyrick@monmouthshire.gov.uk