Mae Cyngor Sir Fynwy, drwy gydweithio gydag Ysgol Gynradd Overmonnow ac Ysgol Gymraeg Y Ffin, yn mynd i greu egin ddarpariaeth  cyfrwng Cymraeg yn Nhrefynwy.   

Bydd y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yma o dan arweinyddiaeth, llywodraethiant a rheolaeth Ysgol Gymraeg Y Ffin ac wedi ei lleoli ar safle Ysgol Gynradd Overmonnow. Bydd y ddarpariaeth ar gyfer disgyblion y meithrin, dosbarth derbyn a blwyddyn 1 ac yn rhoi’r cyfle i rieni i gael mynediad  at addysg  Gymraeg yn lleol.

Mae cynnig darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn Nhrefynwy yn cefnogi strategaeth Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn  2050.  Bydd hefyd yn helpu cyrraedd y targedau sydd wedi eu nodi yn y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg 22-32 a’i strategaeth ehangach i gefnogi a thyfu’r galw am addysg cyfrwng Cymraeg ar draws y sir.  

Dywedodd y Cyngh. Martyn Groucutt, Aelod Cabinet sydd yn gyfrifol am Addysg: “Mae’r iaith Gymraeg mor bwysig, ac mae gweld y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg sy’n cael ei chyflwyno yn cynnig sicrwydd. Mae mor bositif i weld y nifer o siaradwyr Cymraeg yn Sir Fynwy yn cynyddu a bod mwy o gyfleoedd i ddysgu’r iaith ar draws y sir.”

Bydd y ddarpariaeth hon ar gael o’r 1af Medi 2023.  Mae’r broses gais ar gyfer derbyn plant i ysgolion cynradd nawr ar agor a bydd angen i rieni i wneud cais yn y ffordd arferol. Mae gwybodaeth bellach a rhestr o’r ysgolion sydd ar gael i’w gweld yma – Gwneud cais am le ysgol – Sir Fynwy