Skip to Main Content

Strategaeth a Ffefrir

YDiweddariad Tachwedd 2023: m mis Hydref 2023 cymeradwyodd y Cyngor ddiweddariadau i’r Strategaeth a Ffefrir yn dilyn yr ymgynghoriad/ymgysylltiad statudol rhwng Rhagfyr 2022 ac Ionawr 2023. Gallwch weld yr adroddiad hwn yma. Ar hyn o bryd mae gwaith yn mynd rhagddo ar baratoi’r Cynllun Adneuo y disgwylir iddo fod yn destun ymgynghori/ymgysylltu statudol ddiwedd Gwanwyn 2024.

Strategaeth a Ffefrir y Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig (CDLl)

Roedd y Strategaeth a Ffefrir a’r Gwerthusiad Cynaliadwyedd Integredig Cychwynnol a’r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ar gael fel rhan o ymgynghoriad cyhoeddus am wyth wythnos o’r 5ed Rhagfyr 2022 tan 30ain Ionawr 2023.

Dyma’r cam ymgynghori statudol cyntaf yn y broses o baratoi’r Cynllun ac mae’n darparu’r cyfeiriad strategol ar gyfer datblygu a defnyddio tir yn Sir Fynwy (ac eithrio’r ardal o fewn Parc cenedlaethol Bannau Brycheiniog) dros gyfnod y Cynllun, 2018-33, gan nodi faint o dwf sydd angen a ble’n union fydd y twf yma’n cael ei leoli.   

Nod cyffredinol y of the Strategaeth a Ffefriryw:

  • Adnabod y materion, heriau a’r cyfleoedd allweddol ar gyfer y Sir   
  • Datblygu Gweledigaeth a set o Amcanion ar gyfer y CDLlA sydd yn ymateb i’r materion heriau a’r cyfleoedd allweddol
  • Amlinellu’r lefel o dwf a ffefrir (tai a chyflogaeth) a’r dosbarthiad gofodol eang o’r twf yma
  • Amlinellu’r Dyraniadau Safle Strategol a Ffefrir a’r Polisïau Strategol a fydd yn cyflenwi/gweithredu’r Strategaeth yma  

Os ydych am ddarllen fersiwn mwy byr a syml o’r ddogfen Strategaeth a Ffefrir, rydych yn medru lawrlwytho fersiwn Crynodeb Hawdd Ei Deall   yma. Mae fideo animeiddiad hefyd ar gael.     

Mae Crynodeb o’r Strategaeth a Ffefrir hefyd ar gael.

Mae mwy o wybodaeth am y Gwerthusiad Cynaliadwyedd Integredig Cychwynnol a’r Asesiad Rheoliadau  Cynefinoedd ar gael drwy ddilyn y ddolen hon.

Mae Cynllun Cyflenwi wedi ei baratoi ar y cyd gyda’r Strategaeth a Ffefrirsyddyn diwygio amserlen y prosiect ar gyfer paratoi’r Cynllun. 

Mae papurau cefndir a dogfennau cefnogol y Strategaeth a Ffefrir ar gael i’w gweld ymaMaecopi o’rhysbysiad ffurfiol o’r ymgynghoriad hefyd ar gael. 

Golygwch Hyn

Mae’r dogfe