Skip to Main Content

Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Sir Fynwy – Diweddariad Ebrill 2024

Rydym ar hyn o bryd yn gweithio tuag at gam y Cynllun Adnau ym mhroses y CDLlD a fydd yn nodi’r fframwaith polisi manwl a’r dyraniadau defnydd tir ar gyfer Sir Fynwy hyd at 2033.

Y bwriad oedd cyhoeddi’r Cynllun Adnau ddiwedd Gwanwyn 2024. Fodd bynnag, mae’r gwaith o baratoi’r Cynllun Adnau yn mynd rhagddo a disgwylir iddo gael ei gwblhau ym mis Medi 2024. Rhagwelir y bydd adroddiadau gwleidyddol yn gofyn am gymeradwyaeth i’r Cynllun Adnau ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus a’r gwaith ymgysylltu/ymgynghoriad statudol dilynol yn digwydd yn hydref 2024, er y bydd hyn yn dibynnu ar amseriad Etholiad Cyffredinol y DU.

Diweddariad Ffosffadau Gorffennaf 2023

Mae diweddariad briffio ffosffadau wedi’i baratoi ar fater amgylcheddol heriol ansawdd dŵr yn yr Afon Gwy a’r Afon Wysg. Mae’r papur hwn yn canolbwyntio ar y goblygiadau i Sir Fynwy o ran cynigion datblygu a datblygiad y Cynllun Datblygu Lleol Amnewid  (CDLlA).

Nid oedd y Strategaeth a Ffefrir (Rhagfyr 2022) yn cynnig unrhyw ddyraniadau safle newydd ym mhrif anheddiad Trefynwy, nac o fewn dalgylch Afon Gwy uchaf i’r gogledd o Bont Bigsweir oherwydd diffyg ateb strategol a nodwyd i drin ffosffadau yng Ngwaith Trin Dŵr Gwastraff Trefynwy (GTDG) o fewn cyfnod y Cynllun. Fodd bynnag, roedd llythyr ymateb Llywodraeth Cymru i’r ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffefrir yn nodi y dylid ystyried dyraniadau safleoedd newydd yn Nhrefynwy ar y sail y darperir digon o sicrwydd gan welliannau arfaethedig Dŵr Cymru i Waith Trin Dŵr Gwastraff Trefynwy erbyn 31 Mawrth 2025.

Mae cael gwared ar y cyfyngiad gofodol hwn yn ardal Trefynwy yn golygu y gall y CDLlA ddyrannu datblygiad tai fforddiadwy newydd yn Nhrefynwy. Cynigir y bydd y Cynllun Adnau yn dynodi safle(oedd) strategol newydd ar gyfer tua 250-300 o gartrefi yn Nhrefynwy. Mae hyn yn ychwanegol at y tri safle etifeddol a nodwyd yn y Strategaeth a Ffefrir sy’n cynnwys 275-290 o gartrefi newydd a ddygwyd ymlaen o’r CDLl mabwysiedig neu ganiatâd/ceisiadau cynllunio presennol ond na sydd wedi medru symud ymlaen oherwydd y cyfyngiad ffosffad:

  • dyraniad presennol y CDLl yn Heol Tudur, Wyesham (35 – 50 o gartrefi);
  • dyraniad presennol y CDLl yn Fferm Drewen, Trefynwy (110 o gartrefi);
  • y caniatâd cynllunio sy’n bodoli yn Heol Rockfield, Trefynwy (70 o gartrefi); a
  • dyraniad newydd ar gyfer y 60 o gartrefi sy’n weddill yn Heol Rockfield, Trefynwy.

Bydd yn ofynnol i bob dyraniad safle newydd ddarparu 50% o dai fforddiadwy. Bydd cyfle i wneud sylwadau ar unrhyw ddyraniadau safle yn ystod y cyfnod y Cynllun Adneuo. Ni allwn dderbyn sylwadau tan yr amser hwn.

Cofrestr o Safleoedd Ymgeisiol

Fel rhan o’r ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffefrir, roeddem hefyd wedi gwahodd sylwadau ar y safleoedd ymgeisiol a restrir yn y Gofrestr o Safleoedd Ymgeisiol sy’n nodi’r safleoedd a gyflwynwyd yn ystod yr Ail Alwad am Safleoedd Ymgeisiol. Mae’r Gofrestr o Safleoedd Ymgeisiol wedi’i diweddaru i adlewyrchu’r newid yn y dull o ymdrin â’r her ffosffadau yn Nalgylch Afon Gwy Uchaf yn dilyn yr ymgynghoriad diweddar ar y Strategaeth a Ffefrir. Mae safle ychwanegol a gyflwynwyd fel rhan o’r ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffefrir hefyd wedi’i gynnwys yn y Gofrestr wedi’i diweddaru, sef Tir i’r Dwyrain o’r Fenni 2. Bydd cyfle i wneud sylwadau ar y safleoedd hyn yng nghyfnod y Cynllun Adneuo. Ni allwn dderbyn sylwadau hyd yr amser hwn. Ewch i’r dudalen Safleoedd Ymgeisiol am ragor o wybodaeth.

Camau nesaf

Ym mis Hydref 2023 cymeradwyodd y Cyngor ddiweddariadau i’r Strategaeth a Ffefrir yn dilyn yr ymgynghoriad/ymgysylltiad statudol rhwng Rhagfyr 2022 ac Ionawr 2023. Gallwch weld yr adroddiad hwn yma. Ar hyn o bryd mae gwaith yn mynd rhagddo ar baratoi’r Cynllun Adneuo y disgwylir iddo fod yn destun ymgynghori/ymgysylltu statudol ddiwedd Hydref 2024, er y bydd hyn yn dibynnu ar amseriad Etholiad Cyffredinol y DU.

Sut Ydw i’n Derbyn y Wybodaeth Ddiweddaraf?

Os dymunwch gael gwybod am y CDLlA, gan gynnwys ymgynghoriadau yn y dyfodol, cofrestrwch eich manylion neu mae modd cysylltu â’r Tîm Polisi Cynllunio.

E-bost: planningpolicy@monmouthshire.gov.uk

Ffôn: 01633 644429