Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy yn gofyn am sylwadau ar gynigion ar gyfer ardal y Groes yng nghanol y dref. 

Mae’r prosiect yn ffurfio rhan o ddrafft gynllun adfywio Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a gymeradwyodd y Cyngor ar gyfer ei gyflwyno i raglen Buddsoddiad Adfywio wedi’i Dargedu Llywodraeth Cymru ym mis Medi. Gellid adeiladu cyfadeilad fflatiau, canolfan siopa brysur, gwella hygyrchedd a seilwaith ffordd newydd dros y tair blynedd nesaf. 

Gyda gwelliannau i seilwaith gwyrdd y dref sydd i ddigwydd yn ystod mis Hydref a mis Tachwedd, y prosiect nesaf i’w gyflwyno fydd ail-ddatblygu ardal y Groes yng nghanol y dref gyda’r nod o wella hygyrchedd, cysylltiadau cryfach gyda’r castell a’r parc gwledig a gosodiad gwell ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau. 

Gofynnir i chi ddarllen yr wybodaeth yn y dogfennau PDF yn ofalus yma cyn rhoi eich sylwadau drwy’r arolwg ar-lein yma: