Skip to Main Content

A yw maethu i chi?

Gwnewch wahaniaeth i fywyd plentyn neu berson ifanc

Mae bod yn Ofalwr Maeth yn waith arbenigol a gaiff ei wneud gan bobl eithriadol, ac i lawer mae’n brofiad sy’n newid bywyd.

Mae maethu yn ffordd i wneud gwahaniaeth cadarnhaol go iawn i fywyd plentyn a phobl ifanc gan roi cartref sefydlog a chariadus iddynt a’r gefnogaeth ac anogaeth maent ei angen i ffynnu a gwneud yn dda.

Croesawn bobl o bob cefndir, yn cynnwys pobl sengl, cyplau (priod, di-briod a’r un rhyw), perchnogion tai neu rai heb fod yn berchnogion tai, pobl gyflogedig neu ddi-waith, rhieni a rhai heb fod yn rhieni.

Rydym angen gofalwyr maeth ar gyfer plant o bob oedran ac yn neilltuol o awyddus i glywed gan bobl a fyddai’n ystyried maethu pobl ifanc yn eu harddegau, grwpiau o frodyr a chwiorydd, plant anabl a lleoliadau mam a baban. Mae maethu’n waith heriol ond mae llawer o ofalwyr yn ei chael yn anhygoel o werth chweil gyda’r cyfle i ddilyn hyfforddiant a dysgu sgiliau newydd.

Mathau o faethu

Mae lleoliadau’n amrywio ac yn dibynnu ar anghenion lleol

Mae llawer o resymau pam fod plant yn mynd i’r system derbyn gofal, felly rydym angen pobl a all gynnig gwahanol fathau o faethu yn cynnwys:

Hirdymor

Gall y math yma o faethu fod yn bwysig tu hwnt i blentyn neu berson ifanc gan ei fod yn cynnig amgylchedd cartref sefydlog a diogel i’w paratoi ar gyfer byw’n annibynnol a bywyd fel oedolyn.

Tymor byr

Darparu lleoliadau dros dro ar gyfer plant a phobl ifanc nes cadarnhawyd eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Gall y math yma o leoliad amrywio o ychydig ddyddiau hyd at gwpl o flynyddoedd a gall yn aml ddigwydd ar rybudd byr iawn. Mae’r lleoliadau yma’n aml yn ganlyniad argyfwng sydyn yn y teulu lle mae’r brif nod yw dychwelyd y plentyn neu berson ifanc yn ôl i gartref y teulu neu eu symud ymlaen i leoliad mabwysiadu.

Egwyl Fer

Darparu gofal am gyfnod byr. Gall hyn olygu o noswaith hyd at gwpl o wythnosau. Caiff y math yma o leoliad yn aml ei ddefnyddio i liniaru sefyllfa anodd yn y cartref neu roi egwyl i rieni neu ofalwyr. Yn aml gellir trefnu lleoliadau egwyl fer ar gyfnodau rheolaidd a chânt yn aml eu defnyddio ar gyfer ein plant gydag anableddau.

Seibiant

Ar gyfer plant sydd angen seibiant rheolaidd o leoliad neu leoliad gwyliau.

Llety lle ceir cefnogaeth

Yn cynnig cyfnod o sefydlogrwydd ar gyfer y person ifanc tra’u bod yn paratoi i fyw’n annibynnol. Mae’r gofalwyr yn annog a hyrwyddo annibyniaeth nes bydd y person ifanc yn barod i symud ymlaen.

Rhiant a Phlentyn

Tra  bod rhai rhieni yn cael asesiadau rhianta, mae angen iddynt fyw mewn amgylchedd diogel lle gall gofalwyr gefnogi’r rhieni tra’n adrodd yn ôl ar ddatblygiad a sgiliau’r rhiant. Darperir hyfforddiant penodol ar gyfer y math arbenigol yma o leoliad. Yn ei hanfod, mae’n rôl ddeuol o gefnogi a goruchwylio mam ifanc a’i baban a gall barhau am 6-9 mis.

Galw heibio rheolaidd yn y sesiynau bob dydd Mercher cyntaf y mis, o 10-12 yn eich Canolfan Gymunedol leol: Canolfan Gymunedol Y Fenni Canolfan Gymunedol Cas-gwent Canolfan Gymunedol Brynbuga Trefynwy Cymuned Hub / Llyfrgell Canolfan Gymunedol Caldicot