Skip to Main Content

Pedia Trefynwy yw’r prosiect Wicipedia cyntaf i gynnwys tref gyfan.

Mae’r prosiect yn ceisio cwmpasu pob lle, unigolyn, arteffact, planhigyn, anifail a pheth arall nodedig yn Nhrefynwy mewn cymaint o ieithoedd ag y bo modd, ond gyda ffocws arbennig ar Gymraeg a Saesneg. Mae hwn yn brosiect wici ar raddfa wahanol. Mae’r prosiect yn cael ei ariannu ar y cyd gan Gyngor Sir Fynwy a Wikimedia UK. Ar hyn o bryd mae Cyngor Sir Fynwy yn gosod Wi-Fi am ddim ar draws y dref ar gyfer y prosiect.

Mae Pedia Trefynwy yn defnyddio codau QRpedia, math o god bar y gall ffôn clyfar neu gyfrifiadur llechen ddarllen trwy ei gamera (gan ddefnyddio un o’r nifer o ddarllenwyr QR sydd ar gael am ddim). Mae’r cod yn mynd â chi i erthygl Wicipedia yn eich iaith eich hun. Mae codau QR yn hynod ddefnyddiol, gan nad oes modd i arwyddion corfforol arddangos yr un faint o wybodaeth, a gall y wybodaeth hon fod mewn nifer anferth o ieithoedd.