Skip to Main Content

Mae’r Ddeddf Gamblo yn rhoi nifer o swyddogaethau rheoleiddiol pwysig i’r Cyngor yn cynnwys:

  • Cyhoeddi trwyddedau safle ar gyfer casinos, neuaddau bingo, siopau betio, canolfannau hapchwarae i oedolion a chanolfannau adloniant teulu trwyddedig.
  • Dyfarnu trwyddedau ar gyfer hapchwarae a pheiriannau hapchwarae mewn clybiau, canolfannau adloniant teulu heb drwydded a pheiriannau hapchwarae mewn tafarndai a safleoedd eraill sydd â thrwydded alcohol.

Mae’n rhaid i ni hefyd roi ystyriaeth i’r amcanion trwyddedu dilynol:

  • Atal gamblo rhag bod yn ffynhonnell troseddu neu anrhefn, bod yn gysylltiedig gyda throseddu neu anrhefn neu gael ei ddefnyddio i gefnogi troseddu
  • Sicrhau y cynhelir y gamblo mewn ffordd deg ac agored
  • Amddiffyn plant a phersonau bregus eraill rhag cael eu niweidio neu ymelwa drwy gamblo

 

Mae angen i Gyngor Sir Fynwy gyhoeddi Datganiad o Bolisi Trwyddedu sy’n nodi sut y bydd yn gweinyddu ei swyddogaethau trwyddedu o dan y Ddeddf. Mae angen i’r polisi hwn gael ei adolygu bob tair blynedd, a rhoddir rhybudd trwy hyn fod ar 22 Tachwedd 2012 Cyngor Sir Fynwy wedi cymeradwyo’r ‘Datganiad o Bolisi Gamblo’, a fydd yn dod i rym ar 31 Ionawr 2013.