Skip to Main Content

Er mwyn cydymffurfio gyda safonau sicrwydd talu, fel o 15/02/2018 caiff rhai porwyr, os nad ydynt yn hollol gyfredol, eu hatal rhag cael mynediad i dudalen taliadau ar-lein Sir Fynwy. Os effeithir ar eich porwr cyflwynir sgrîn i chi sy’n cynnwys gwybodaeth ac arweiniad ar sut i ddiewddaru eich porwr rhyngrwyd. Os ydych yn dal i fethu gwneud taliad dull arall yw ffonio ein llinell talu Ffôn Awtomedig – 0800 023 7406

Mae’r dudalen yn rhoi’r holl opsiynau sydd ar gael i dalu eich biliau i’r cyngor.

I dalu un o’r biliau dilynol ar-lein, cliciwch ar y ddolen:

Taliadau ar-lein

Gallwch dalu treth gyngor, trethi busnes, anfonebau’r cyngor a gordaliadau budd-dal tai a yn defnyddio ein gwefan talu diogel ar-lein. Byddwch angen y cyfeirnod o’r bil neu’r anfoneb yr ydych yn ei dalu.

Gallwn dderbyn cardiau debyd a chardiau credyd ac ni chodir ffi am ddefnyddio’r cyfleuster yma.

Ar gyfer taliadau rhent ar gyn dai cyngor, ewch i Tai Sir Fynwy, y sefydliad sy’n awr yn berchen ar y cartrefi hyn.