Skip to Main Content

Cyfle i ennill un o ddeg o dalebau gwerth £50 yn Love2Shop drwy gwblhau’r Arolwg Trafnidiaeth

Mae’r deg awdurdod lleol yn Ne-ddwyrain Cymru yn cynnal arolwg i gasglu data trafnidiaeth gwaelodlin i gynorthwyo â’r gwaith o baratoi cynlluniau trafnidiaeth lleol. Bydd y data hwn yn cael ei ddefnyddio i helpu i sicrhau system drafnidiaeth i gefnogi datblygiad y ‘rhanbarth dinesig’. Wrth gwblhau’r arolwg, byddwch yn ein helpu i ddarganfod pa welliannau trafnidiaeth y dylid eu blaenoriaethu dros y 15 mlynedd nesaf, a throi’r dyhead hwn yn realiti. Bydd cyfle hefyd i ennill taleb gwerth £50 gyda Love2Shop. Y cwbl sydd angen ei wneud yw clicio’r ddolen isod a chwblhau’r arolwg.

Ni ddylai gymryd mwy na 5 munud i lenwi’r arolwg hwn. Os oes unrhyw gwestiynau y byddai’n well gennych beidio â’u hateb, gallwch eu gadael yn wag.

Os cewch unrhyw drafferth yn llenwi’r holiadur, neu os oes gennych gwestiynau amdano, ffoniwch: 029 2087 3254 neu anfonwch e-bost at polisitrafnidiaeth@caerdydd.gov.uk

Mae’r arolwg ar gael yn y Gymraeg ac yn Saesneg:

Saesneg : http://www.surveys.cardiff.gov.uk/sewta/

Cymraeg: http://www.surveys.cardiff.gov.uk/sewta/cym/

‘Sicrhewch fod eich ymateb yn ein cyrraedd ni erbyn 24 Mai’

Ar y bws

Mae National Express yn gweithredu rhwydwaith cenedlaethol o wasanaethau bysiau i’r Fenni, Cas-gwent, Trefynwy a Chasnewydd.

Ewch i www.nationalexpress.com i gynllunio eich taith i Ddyffryn Gwy a Dyffryn Wysg. Mae gwybodaeth leol a chenedlaethol ynghylch amserlenni a phrisiau tocynnau hefyd ar gael gan Traveline; ewch i www.traveline-cymru.info.

Ledled Sir Fynwy mae yna lawer o wasanaethau bysiau lleol sy’n gwasanaethu pob un o’r prif drefi a phentrefi o ddydd i ddydd.

Mewn car

Mae mynediad o dde Lloegr ar hyd yr M4 a’r Ail Groesfan Hafren, neu’r M48 a’r Bont Hafren wreiddiol (pob un yn bontydd toll). O Ganolbarth a Gogledd Lloegr, mae mynediad ar hyd yr M50/A40 trwy Rosan ar Wy. O fannau eraill yng Nghymru, gellir cyrraedd yr ardal ar hyd yr M4 neu’r A40/A465 trwy’r Fenni.

Am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y traffig ar gefnffyrdd a thraffyrdd Cymru, ewch i www.traffic-wales.com

Dalier sylw: Mae toll yn daladwy ar y ddwy bont Hafren wrth deithio tua’r gorllewin. I gael y wybodaeth ddiweddaraf am daliadau, ewch i www.severnbridge.co.uk. Yn wahanol i’r Ail Groesfan Hafren (M4), mae gan y Bont Hafren wreiddiol (M48) lwybr penodol a di-doll ar gyfer beicwyr a cherddwyr.

Ar y trên

Mae gorsafoedd rheilffordd prif linell yng Nghasnewydd, Y Fenni, Caldicot, Cyffordd Twnnel Hafren a Chas-gwent.

Mae gwasanaethau rheolaidd rhwng Llundain Paddington, Caerdydd, Plymouth, Portsmouth, Birmingham a Manceinion Piccadilly.

Am ymholiadau teithio, ymwelwch â www.nationalrail.co.uk, tra bo tocynnau ar gael ganwww.thetrainline.com.

Ar feic

Gellir cyrraedd Dyffryn Gwy a Dyffryn Wysg ar hyd nifer o Lwybrau Beicio Cenedlaethol.

Mae Llwybrau 4, 42, 46, 47, 49 ac 88 i gyd yn mynd i mewn ac yn archwilio rhannau o’r ardal.

Mae llawer o berchnogion lletyau yn Nyffryn Gwy a Dyffryn Wysg yn cynnig trosglwyddo bagiau o orsafoedd rheilffordd a bws, gan eich galluogi i gyrraedd ac archwilio’r ardal heb angen defnyddio car.

Am fwy o wybodaeth ynglwn â beicio di-draffig a diogelwch beicio, ewch i wefan Sustrans, sy’n cynnwys mapiau manwl o bob Llwybr Beicio Cenedlaethol.

Mewn awyren

Mae meysydd awyr rhyngwladol Caerdydd, Bryste a Birmingham i gyd o fewn pellter teithio hawdd o Ddyffryn Gwy a Dyffryn Wysg.

Os na fydd tagfeydd traffig, gellir gyrru i Lundain Heathrow ar hyd yr M4 mewn dwy awr, tra bod gan yr holl feysydd awyr a enwir yma gysylltiadau uniongyrchol ar drafnidiaeth gyhoeddus i’r rhwydweithiau rheilffordd a bysiau cenedlaethol.

Ewch i wefannau’r meysydd awyr i gael gwybodaeth hedfan.

Caerdydd: www.cwlfly.com

Bryste: www.bristolairport.co.uk

Birmingham: www.bhx.co.uk

Llundain Heathrow: www.heathrowairport.com