Skip to Main Content

Mae’r tîm ystadau yn gyfrifol am reoli portffolio amrywiol o eiddo a thir y cyngor, o ysgolion ac adeiladau cymunedol i eiddo diwydiannol a daliadau ffermydd y sir. Mae’r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth am yr eiddo sydd ar werth ac ar osod gan y cyngor yn ardal Sir Fynwy.

Mae gan y cyngor ar hyn o bryd ddetholiad o eiddo diwydiannol a manwerthu i’w rhentu, yn ogystal â safleoedd sydd ar werth.


Eiddo i’w rentu

Mae gan y cyngor ddetholiad o eiddo sydd ar osod. Mae’r rhain yn cynnwys unedau yn ein pedair ystad ddiwydiannol – ystadau diwydiannol Pill Farm, Old Pill Farm a Castle Way yng Nghil-y-coed (ger traffordd yr M4) a Pharc Menter Rhaglan. Mae unedau yn amrywio mewn maint o 450 troedfedd sgwâr i 2,000 troedfedd sqwâr (41 metr sgwâr i 185 metr sgwâr). Mae gan y cyngor hefyd safleoedd manwerthu yn Nhrefynwy, y Fenni, Goetre, Cas-gwent a Chil-y-coed sydd weithiau’n dod ar gael i’w rhentu.

I weld manylion pellach am yr eiddo sydd ar osod gan y cyngor, gweler y lawrlwythiadau isod neu gysylltu â ni ar 01633 644 417 neu estates@monmouthshire.gov.uk

 

Eiddo ar werth

Mae gan y cyngor raglen gwaredu tir ac adeiladau; am ragor o fanylion gweler y lawrlwythiadau isod neu gysylltu â ni ar 01633 644 417 neu estates@monmouthshire.gov.uk 

 

Tir diwydiannol

Mae Cyngor Sir Fynwy yn cadw cofrestr o dir diwydiannol yn y sir sydd ar gael i’w ddatblygu ar gyfer dibenion cyflogaeth.

Sir Fynwy yw’r sir gyntaf yng Nghymru, gyda mynediad i’r ddwy bont Hafren. Mae wedi’i lleoli’n strategol ar goridor yr M4, sy’n cynnig mynediad hawdd i Lundain a de-ddwyrain Lloegr, ac yn cysylltu â’r A40/A449 sy’n arwain at ganolbarth a gogledd Lloegr.

Mae Strategaeth Datblygu Economaidd Sir Fynwy yn cydnabod y rhan strategol hon y mae’r sir yn ei chwarae yn economi Cymru ac yn ei hymgorffori yn ei datganiad o weledigaeth.

Amcan y strategaeth yw annog y defnydd o safleoedd a neilltuwyd ar gyfer datblygiad ac mae yna gam gweithredu sy’n gofyn yn benodol am greu’r Gofrestr Tir Diwydiannol hon.

Nododd Cynllun Datblygu Unedol Sir Fynwy (Mehefin 2006) 90 hectar o dir ar 21 o safleoedd. Mae’r sir wedi gweld datblygiadau sylweddol o ran tir diwydiannol yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac erbyn hyn mae 65 hectar o dir diwydiannol ar gael ar 11 o safleoedd.

Mae’r gofrestr hon wedi cael ei chynhyrchu i ddarparu cronfa gynhwysfawr o wybodaeth sy’n ymwneud â’r safleoedd a neilltuwyd ar gyfer datblygiad diwydiannol yn y sir. Mae wedi cael ei pharatoi gan ddefnyddio’r wybodaeth orau a oedd ar gael ym mis Mawrth 2008. Fodd bynnag, gall y wybodaeth hon newid yn ystod oes y ddogfen hon. Y bwriad yw cynnal adolygiad llawn o’r wybodaeth yn flynyddol.

Mae’r gofrestr tir lawn ar gael ar gais gan y swyddog datblygu busnes. Gallwch gysylltu ag ef/hi drwy anfon e-bost at economicdevelopment@monmouthshire.gov.uk neu drwy ffonio 01633 644841.

Daliadau Ffermydd y Sir

Mae’r tîm ystadau yn gyfrifol am reoli daliadau ffermydd y sir. Mae’r rhain yn cynnwys daliadau fferm, tir moel a choetir. Er na fydd daliadau fferm ar gael i’w hail-osod yn aml iawn, mae gennym restr aros. Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â Debra Hill-Howells ar 01633 644 281 neu Gareth King ar 01633 748 331.

Mae gan y cyngor hefyd ardaloedd mawr o dir pori; ceir y cytundebau ar gyfer y rhain eu hadolygu’n rheolaidd a gwahoddir tendrau pan fyddant ar gael. Ceir manylion am unrhyw dir sydd ar gael isod.

Mwy

Hysbysiad o werthu tir man agored yn hen Ysgol Gynradd Rogiet

Gweler y cynllun sy’n nodi’r man agored y mae Cyngor Sir Fynwy yn bwriadu ei werthu.