Skip to Main Content

Cyflwynwyd y Sbardun Cymunedol fel rhan o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Trosedd a Phlismona 2014, a ddaeth i rym ar 20fed Hydref 2014.

Ei bwrpas yw rhoi cyfle i ddioddefwyr Ymddygiad Gwrthgymdeithasol parhaus i ofyn am adolygiad o’r camau a gymerir gan asiantaethau pan fyddant yn teimlo nad yw’r camau hyn wedi bod yn ddigonol i ddatrys y broblem.

Yn y lle cyntaf, dylid rhoi gwybod am Ymddygiad Gwrthgymdeithasol i’r Landlord Cymdeithasol Cofrestredig (Darparwyr Tai), yr Awdurdod Lleol neu’r heddlu. Os bydd y darparwyr hyn yn methu â mynd i’r afael â’r broblem yn foddhaol, gellir ystyried y trothwy fel y dewis olaf i ddioddefwyr Ymddygiad Gwrthgymdeithasol.

Mae’r Sbardun Cymunedol yn galluogi dioddefwyr Ymddygiad Gwrthgymdeithasol parhaus i ofyn am adolygiad gan banel sy’n cynnwys uwch gynrychiolwyr o’r Awdurdod Lleol, y Bwrdd Iechyd lleol, yr Heddlu a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig. Bydd y Panel yn adolygu’r camau a gymerwyd hyd yma gan yr asiantaethau dan sylw a gall wneud argymhellion y dylid cymryd camau pellach.

Beth yw Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (YG)?

At ddiben y trothwy cymunedol, mae YG yn golygu ymddwyn mewn modd sy’n achosi aflonyddwch, braw neu ofid i unrhyw aelod neu aelodau o’r cyhoedd. I gael rhagor o wybodaeth, ymwelwch â’n tudalen we ar Ymddygiad Gwrthgymdeithasol.

Pwy sy’n gallu gweithredu’r Sbardun Cymunedol?

Gall unrhyw rai o’r canlynol weithredu’r Sbardun Cymunedol:

  • Dioddefwyr Ymddygiad Gwrthgymdeithasol,
  • Cynrychiolydd y dioddefwr, ar ei ran (e.e. aelod o’r teulu, ffrind, gofalwr, cynghorydd, AS neu berson proffesiynol arall, oll dim ond â chydsyniad y dioddefwr yn).
  • Busnesau neu Grŵp Cymunedol

Pryd y gellir rhoi’r Sbardun Cymunedol ar waith?

Gallwch roi’r Sbardun Cymunedol ar waith os ydych wedi cwyno i Awdurdod Lleol, yr Heddlu a/neu Landlord Cymdeithasol Cofrestredig deirgwaith am achosion YG ar wahân yn y chwe mis diwethaf ac yn credu bod y camau a gymerwyd wedi bod yn annigonol.

Er mwyn i’r Sbardun Cymunedol gael ei roi ar waith, rhaid i bob cwyn gael ei gwneud cyn pen mis ar ôl i’r achos YG ddigwydd, a rhaid i’r tair cwyn gael eu gwneud o fewn chwe mis i’r gŵyn gyntaf.

Gellir rhoi’r Sbardun Cymunedol ar waith hefyd pan fo pum unigolyn neu grŵp o’r gymuned leol wedi cwyno ar wahân i’r Awdurdod Lleol, Landlord Cymdeithasol Cofrestredig a/neu’r Heddlu yn y chwe mis diwethaf am yr un lleoliad, tramgwyddwr neu broblem, a chredant fod y camau a gymerwyd wedi bod yn annigonol.

Yn olaf, gallwch roi’r Sbardun Cymunedol ar waith os ydych wedi cwyno i’r Cyngor, yr Heddlu a/neu’r Landlord Cymdeithasol Cofrestredig am ddigwyddiadau casineb ar wahân yn ystod y chwe mis diwethaf, ac yn credu bod y camau a gymerwyd wedi bod yn annigonol. Digwyddiad Casineb yw unrhyw ddigwyddiad sydd â’i brif gymhelliant ar sail anabledd, hil, crefydd, hunaniaeth drawsryweddol neu gyfeiriadedd rhywiol y dioddefwr.

Sut y gellir rhoi’r Sbardun Cymunedol ar waith?

Os ydych yn teimlo bod eich cwyn yn bodloni’r meini prawf a nodir uchod, mae sawl ffordd y gallwch wneud cais i roi’r Sbardun Cymunedol ar waith, fel a ganlyn:

  • Rhif ffôn: 01633 644210
  • Ebost: CommunityTrigger@monmouthshire.gov.uk
  • Trwy’r post: Sbardun Cymunedol, Cyngor Sir Fynwy, Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, Sir Fynwy, NP15 1GA

Bydd angen i chi ddarparu manylion ynghylch pryd y digwyddodd y digwyddiad, beth ddigwyddodd, y dyddiad y gwnaethoch ei adrodd, ac i bwy y gwnaethoch ei adrodd. Cofiwch gynnwys enwau’r bobl y gwnaethoch siarad â hwy ac unrhyw rifau cyfeirnod y gallech fod wedi’u cael ar adeg adrodd am yr achos. Os nad ydych yn darparu’r manylion hyn bydd angen i ni gysylltu â chi er mwyn symud ymlaen gyda’ch cais.

Amserlenni

Ar ôl cael Cais Sbardun Cymunedol, bydd llythyr cydnabod yn cael ei anfon gan y Swyddog Diogelwch Cymunedol ar ran Panel Adolygu Achosion Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Sir Fynwy o fewn 5 diwrnod gwaith i dderbyn y cais.

Byddwn yn craffu ar eich cais er mwyn cadarnhau ei fod yn cyrraedd y trothwy a nodir yn y Ddeddf, a byddwch yn cael gwybod beth yw canlyniad y penderfyniad hwn o fewn 10 diwrnod gwaith i dderbyn y cais. Ar gyfer cais sy’n bodloni’r gofyniad trothwy, bydd Panel Adolygu Achosion yn cael ei gynnull cyn gynted â phosibl. Cewch wybod am ganlyniad y Panel o fewn 35 diwrnod gwaith i dderbyn y cais.

Ffurflen ar-lein

Incident one

Incident two

Incident three

reCAPTCHA

Adroddiad blynyddol ar gyfer 2015/16:

  • Nifer ceisiadau a wnaed am Adolygiad Gofal: 2
  • Nifer o weithiau na chyrhaeddwyd y trothwy: 1
  • Nifer Adolygiadau Achos a gynhaliwyd: 1
  • Nifer Adolygiadau Achos a arweiniodd at argymhellion: Dim

Adroddiad blynyddol ar gyfer 2016/17:

  • Nifer ceisiadau a wnaed ar gyfer Adolygiad Achos: 0
  • Nifer o weithiau na chyrhaeddwyd trothwy: 0
  • Nifer Adolygiadau Achos a gynhaliwyd: 0
  • Nifer Adolygiadau Achos a arweiniodd at argymhellion: Dim

Adroddiad blynyddol ar gyfer 2017/18:

  • Nifer ceisiadau a wnaed ar gyfer Adolygiad Achos: 0
  • Nifer o weithiau na chyrhaeddwyd trothwy: 0
  • Nifer Adolygiadau Achos a gynhaliwyd: 0
  • Nifer Adolygiadau Achos a arweiniodd at argymhellion: Dim

Adroddiad blynyddol ar gyfer 2018/19:

  • Nifer ceisiadau a wnaed ar gyfer Adolygiad Achos: 1
  • Nifer o weithiau na chyrhaeddwyd trothwy: 0
  • Nifer Adolygiadau Achos a gynhaliwyd: 1
  • Nifer Adolygiadau Achos a arweiniodd at argymhellion: Dim