Skip to Main Content

Mae Panel Cist Gymunedol Sir Fynwy wedi derbyn £67,331 ar gyfer 2013-2014                                                                                                                                                                                                                                                                                                         

Mae’r Gist Gymunedol yn cynnig grant o hyd at £1500 mewn unrhyw gyfnod o 12 mis ar gyfer gweithgareddau sy’n:

  • Annog mwy o bobl i ddod yn fwy egnïol yn amlach
  • Codi safonau’r gweithgareddau presennol

Bydd ceisiadau ar gyfer cyfarfod nesaf y Panel ym mis Ebrill yn cael eu derbyn o fis Mawrth 2013 – mae ffurflen gais a chanllawiau ar gael ar wefan Chwaraeon Cymru

Yn 2012-13, roedd ymgeiswyr yn gallu cyflwyno cais am gyllid ychwanegol ar gyfer prosiectau i helpu ehangu, ar lefel gyffredin, chwaraeon cymunedol ledled Cymru, lle byddai hyn yn:

  • Helpu clybiau i baratoi’n well ar gyfer y diddordeb a fyddai’n dod yn sgîl Gemau Olympaidd a Pharalympaidd 2012, ac i baratoi at y galw yn arwain at Glasgow 2014 a thu hwnt
  • Helpu i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb – Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig (BME), anabledd (cynhwysiant), menywod a merched, cynhwysiant cymdeithasol

Rydym am barhau â’r dull hwn drwy gydol 2013–14, gan ganolbwyntio’n benodol ar gyfranogiad menywod a merched mewn chwaraeon.

CEISIADAU GRANT LLWYDDIANNUS – FFURFLEN DATGANIAD I’R WASG. Llenwch y ffurflen hon i roi cyhoeddusrwydd i’ch prosiect. Datganiadau Diweddar i’r Wasg

Pwy all wneud cais?

Mae’r cynllun yn agored i unrhyw grŵp, ar yr amod bod ganddo gyfrif banc yn enw’r sefydliad.

Pwy na all wneud cais?

Yn anffodus, os ydych chi’n aelod o’r cyhoedd, yn ysgol gynradd neu’n gorff cysylltiedig yn trefnu gweithgareddau i blant, neu’n ysgol uwchradd sy’n rhan o’r cynllun 5×60, nid ydych yn gymwys i wneud cais am grant y Gist Gymunedol.

Hefyd, ni ellir cyllido’r gweithgareddau a ganlyn:

  • Gweithgareddau corfforol fel garddio, DIY, gwelliannau amgylcheddol, dawnsio perfformiad neu sgiliau syrcas
  • Gweithgareddau / prosiectau sy’n bodoli eisoes ac sydd wedi dechrau
  • Prosiectau y credir eu bod yn rhan o gostau rhedeg o ddydd i ddydd arferol sefydliad
  • Prosiectau wedi’u lleoli y tu allan i Gymru

Neu’r elfennau a ganlyn mewn prosiectau:

  • Cynnal a chadw, atgyweirio neu newid offer neu gyfleusterau presennol (er hynny, rhoddir ystyriaeth i newid offer nad yw’n cydymffurfio bellach â’r ddeddfwriaeth bresennol)
  • Prynu eitemau personol o offer
  • Arlwyo a lletygarwch
  • Medalau, tystysgrifau a thlysau
  • Tripiau cartref neu dramor
  • Achlysuron unigryw heb unrhyw gysylltiad â gweithgareddau parhaus
  • Aelodaeth
  • Prosiectau cyfalaf (prosiectau sy’n cynnwys adeiladu neu brynu tir)
  • Cefnogaeth ariannol i unigolion

Os hoffech drafod eich prosiect cyn gwneud cais, cysylltwch â Datblygu Chwaraeon a Chymunedol Sir Fynwy ar 01633 644544 neu drwy anfon e-bost at sport@monmouthshire.gov.uk