I sicrhau y caiff Cynlluniau Datblygu Lleol eu cadw’n gyfredol, mae’n ofynnol i awdurdodau cynllunio lleol ddechrau adolygiad llawn o’r Cynlluniau Datblygu Lleol o leiaf unwaith bob pedair blynedd ar ôl eu mabwysiadu, neu’n gynharach os yw canfyddiadau’r Adroddiadau Monitro Blynyddol, yn dangos pryderon sylweddol gyda gweithrediad cynllun.
Adolygu’r Cynllun Datblygu Lleol yw’r dasg o werthuso i ba raddau y mae Cynllun a fabwysiadwyd yn gweithredu’n effeithlon. Mae’r Rheoliadau yn ei gwneud yn bosibl i ‘adolygiad dethol’ edrych ar ran(nau) o Gynllun, neu ‘adolygiad llawn’ sy’n edrych ar yr holl Gynllun.
Adroddiad Adolygu’r Cynllun Datblygu Llawn
Dechreuodd adolygiad llawn o Gynllun Datblygu Lleol Sir Fynwy yn 2017, gyda chyhoeddi Drafft Adroddiad Adolygu. Cynhaliwyd ymgynghoriad am gyfnod o wyth wythnos rhwng 11 Rhagfyr 2017 a 5 Chwefror 2018 ar yr adroddiad hwn. Gellir gweld crynodeb o’r materion allweddol a godwyd o ymatebion yr ymgynghoriad, yn ôl cwestiwn, yma. Gellir gweld crynodeb lawn o ymatebion yr ymgynghoriad, yn cynnwys ymatebion Cyngor Sir Fynwy a newidiadau a argymhellir yma.
Cafodd yr ymatebion a gafwyd o’r ymgynghoriad eu hystyried a’u cynnwys yn yr Adroddiad Adolygu terfynol fel sy’n briodol. Yn seiliedig ar y dystiolaeth yn yr Adroddiad Adolygiad, daethpwyd i’r casgliad y dylai’r Cynllun Datblygu Lleol gael ei ddiwygio ac y dylai hyn fod ar wedd gweithdrefn ddiwygio lawn h.y. Cynllun Datblygu Lleol newydd. Penderfynwyd hefyd y dylid diwygio Cynllun Datblygu Lleol Sir Fynwy ar sail unigol.
Cytundeb Cyflenwi ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig.
Cafodd y Cytundeb Cyflenwi ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig Sir Fynwy ei gytuno gan Lywodraeth Cymru ar 14 Mai 2018. Mae hyn yn golygu y gall gwaith ddechrau’n ffurfiol ar y Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig. Mae’r Cytundeb Cyflenwi yn nodi sut y dylid paratoi’r Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig a chynnwys amserlen ar gyfer paratoi’r Cynllun a chynllun ymgysylltu â’r gymuned. Bydd y Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig yn cwmpasu’r cyfnod 2018-2033.
.