Skip to Main Content

Mabwysiadwyd Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Sir Fynwy 2011-2021 ar 27 Chwefror 2014, gan ddisodli Cynllun Datblygu Unedol (CDU) Sir Fynwy, i ddod yn gynllun datblygu mabwysiedig ar gyfer y Sir (ac eithrio’r rhan honno o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog).

Mae’r Hysbysiad Mabwysiadu a’r Datganiad Mabwysiadu ar gael i’w gweld.

Mae’r Cynllun Datblygu Lleol a fabwysiadwyd ar gael i’w weld yma, mae cynigion a chyfyngiadau y Cynllun Datblygu Lleol ar gael i’w gweld ar Fap Rhyngweithiol y Cynllun

Mae Atodiad i’r Adroddiad ar Werthuso Cynaliadwyedd (Chwef 2014) ac Adroddiad Rheoliadau Cynefinoedd (Mehefin 2011) ac Atodiad i’r Adroddiad ar Asesu Rheoliadau Cynefinoedd (Chwef 2014) wedi eu cyhoeddi hefyd..

Paratowyd y CDLl yn unol â’r Cytundeb Darparu, y cytunwyd ar fersiwn diwygiedig ohono gyda Llywodraeth Cymru ym Medi 2011.

Sail dystiolaeth Cynllun Datblygu Lleol

Mae’r fersiwn argraffedig terfynol o’r Cynllun ar gael i’w brynu oddi wrth y Tîm Cynllunio Polisi ar gost o £35 a £5 cludiant (£25 a £5 cludiant ar gyfer preswylwyr Sir Fynwy).