Skip to Main Content

Mae’n meysydd parcio wedi aros yn agored ac yn weithredol i’r cyhoedd drwy gydol pandemig y coronafirws.  Bydd yn ofynnol i aelodau’r cyhoedd sy’n dal i orfod defnyddio’n meysydd parcio trwy gydol yr amser hwn dalu wrth ein peiriannau talu ac arddangos fel arfer. 

Alla i barcio fy fan Camper  mewn maes parcio yn Sir Fynwy? 

Rydym yn caniatáu i Gerbydau Gwersylla a Chartrefi Modur barcio yn ein meysydd parcio. Fodd bynnag, mae gennym y cyfyngiadau canlynol ar waith: Ni chaniateir annedd dros nos yn ein meysydd parcio ac mae gennym gyfyngiad pwysau yn ein meysydd parcio o 3.5 tunnell. 

Alla i dalu ymlaen llaw am barcio dros nifer o ddyddiau? 

Gallwch brynu tocyn 5 niwrnod neu 6 diwrnod ar gyfradd is o’n peiriannau talu ac arddangos ym mhob un o’n meysydd parcio Arhosiad Hir. 

 
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â pharcio neu os ydych am aros yn ein meysydd parcio arhosiad hir am gyfnod estynedig, cysylltwch â ni trwy e-bost ar carparking@monmouthshire.gov.uk 
lle byddwn yn gallu eich cynorthwyo ymhellach gyda’ch cais parcio.  

Mae fy ngherbyd yn llydan ac ni allaf  ei ffitio i mewn i 1 lle parcioBeth allaf ei wneud?  

Os ydych yn gweld bod eich cerbyd yn tresmasu ar 2 le parcio o ganlyniad i’w faint, bydd angen i chi brynu tocyn ychwanegol i wneud yn iawn am gymryd 2 le yn y maes parcio..  

Mae gen i feic modur, ble allaf barcio ac a oes yn rhaid i fi dalu am fy arhosiad? 

Mae nifer o’n meysydd parcio yn darparu ar gyfer beiciau modur drwy gynnig lleoedd parcio  beiciau modur; am fwy o wybodaeth a fyddech gystal â dilyn y ddolen a ddarperir. https://www.monmouthshire.gov.uk/car-parks/parking/. Os parciwch chi mewn lle parcio beic modur ni fydd yn ofynnol i chi dalu am eich arhosiad yn y maes parcio.  

Beth yw’ch cyfyngiadau uchder yn eich meysydd parcio? 

Mae Gorsaf Fysiau – Y Fenni, Marchnad y Gwartheg a Heol Rockfield yn Nhrefynwy i gyd â chyfyngiadau uchder o 2.8 metr.   

Alla i barcio yn rhad ac am ddim ar ŵyl y banc? 

Bydd costau parcio yn dal i fod yn berthnasol ar ŵyl y banc.  

Beth yw diwrnodau ac amserau gweithredu’r meysydd parcio?  

Mae’n Meysydd Parcio yn gweithredu dydd Llun – dydd   8am – 6pm. Bydd unrhyw amser cyn neu ar ôl amserau perthnasol y Meysydd Parcio yn barcio rhad ac am ddim i’r cyhoedd. Fodd bynnag, mae rhai tramgwyddau h.y. heb barcio o fewn bae a pharcio mewn bae neilltuedig yn eu lle 24/7. A fyddech gystal â glynu at y rheolau parcio car a restrir yn ein byrddau tariff a byrddau mynediad. 

Os prynaf i docyn cyn bod yr amserau parcio ceir yn gweithredu, a fydd e’n ddigonol ar gyfer fy arhosiad 

Os prynwch chi docyn cyn bod yr amserau parcio ceir yn gweithredu, bydd y peiriant yn awtomatig yn cyfrifo’r tocyn o 8 y bore a fydd yn ddigonol ar gyfer eich arhosiad yn y maes parcio.  

Ble mae fy mhwynt gwefru trydan agosaf?   

I gael mwy o wybodaeth am ein pwyntiau gwefru CT, a fyddech gystal ag ymweld â tudalen Gwefru Ceir Trydan

Ble mae fy maes parcio agosaf? 

Gallwch weld eich maes parcio agosaf yma drwy ddefnyddio’n map rhyngweithiol.  

Faint mae’n costio i barcio mewn un o’n meysydd parcio? 

Cliciwch yma i weld ein ffioedd parcio