Skip to Main Content

Mae Cod Ymarfer Derbyn Ysgolion 2013 yn rhoi’r hawl i rieni fynegi dewis i’w plant gael ei dderbyn i unrhyw ysgol a gynhelir o gyllid cyhoeddus.

Pan ddyrennir lleoedd ysgol rhoddir ystyriaeth i’r nifer derbyn ac os yw nifer y ceisiadau a dderbynnir yn fwy na’r nifer o leoedd sydd ar gael defnyddir y meini prawf dilynol ar gyfer pan fo mwy o geisiadau nag o leoedd ar gael. Pan weithredir y meini prawf hyn, rhoddir ystyriaeth gyfartal i bob dewis rhieni a chânt eu dyrannu yn unol â’r meini prawf islaw.

Gellir gweld y niferoedd derbyn yn ein Llyfryn Dechrau Ysgol 2019/20.

Os oes gan eich plentyn Ddatganiad o Anghenion Arbennig mae’n rhaid i’r awdurdod dderbyn y plentyn dan sylw i’r ysgol a nodir ar y datganiad.

Os gellir cyflawni mwy na un flaenoriaeth, cynigir yr ysgol dewis uchaf (fel y’i dangosir ar y ffurflen gais).

  1. Plant sy’n derbyn gofal, neu blant sydd yn flaenorol wedi derbyn gofal h.y. plant sydd neu a fu yng ngofal yr awdurdod lleol
  2. Plant gydag amgylchiadau meddygol eithriadol, a gefnogir gan adroddiad ymgynghorydd meddygol
  3. Plant gyda brodyr a chwiorydd yn yr ysgol ar y dyddiad derbyn
  4. Rhoddir ystyriaeth i blant sy’n byw o fewn dalgylch y dewis ysgol o flaen y plant hynny sy’n byw tu allan i’r dalgylch
  5. Os bydd yr ysgol yn parhau i fod mewn sefyllfa o fwy o geisiadau nag o leoedd ar gael ar ôl gweithredu pwyntiau (1) i (4), seilir blaenoriaeth ar ba mor agos yw’r ddewis ysgol.

Meddygol

Os hoffai rhieni i amgylchiadau meddygol eu plant gael eu hystyried bydd angen iddynt gyflwyno adroddiad ymgynghorydd meddygol (neu ddull arall o dystiolaeth). Byddid angen cyflwyno hyn adeg gwneud y cais er mwyn i’r awdurdod ystyried yr amgylchiadau hyn. Byddai angen iddo roi rhesymau pam mai’r ddewis ysgol yw’r unig opsiwn hyfyw

Siblingiaid (brodyr/chwiorydd)

Caiff brodyr a chwiorydd p’un ai’n llawn, hanner, llys neu faeth eu hystyried os ydynt yn byw gyda’i gilydd yn yr un cyfeiriad. Fodd bynnag bydd angen i’r sibling hynaf fod wedi cofrestru yn yr ysgol pan fydd y sibling ieuengaf yn dechrau. Wrth ystyried dyraniadau ar sail siblingiaid, rhoddir y flaenoriaeth gyntaf i geisiadau ar gyfer siblingiaid genedigaeth luosog.

Siblingiaid genedigaeth luosog

Os wrth weithredu’r meini prawf ar fwy o geisiadau nag o leoedd ar gael bod y plentyn olaf i gael ei dderbyn yn un o enedigaeth luosog, yna bydd yr Awdurdod Lleol yn derbyn y sibling(iaid) arall.

Dalgylch

Gofynnir i chi nodi, er bod byw o fewn y dalgylch ar gyfer eich dewis ysgol yn ffurfio rhan o’r meini prawf pan fo mwy o geisiadau nag o leoedd ar gael, na fydd hynny’n gwarantu lle i chi.

Gallwch edrych pa ysgol yw eich ysgol dalgylch ar ein gwefan.

Caiff dalgylchoedd eu hadolygu.

Pellter

Bydd yr Awdurdod Lleol yn defnyddio Systemau Gwybodaeth Daearyddol (GIS) i gyfrif pellter cartref i ysgol. Y meddalwedd GIS a ddefnyddir gan yr Awdurdod Lleol ar gyfer y dibenion hyn fydd Routefinder a MapInfo Desktop Solutions.

Caiff y llwybr cerdded diogel byrraf ei gyfrif yn defnyddio llwybrau swyddogol sy’n hysbys i’r Awdurdod Lleol ac asiantaethau priffyrdd. Caiff man cychwyn y llwybr a gaiff ei gyfrif ei benderfynu fel y pwynt rhwydwaith agosaf i brif fynedfa’r eiddo. Caiff prif fyneddfa y cyfeiriad cartref ei bennu gan yr Awdurdod Lleol fel lle mae’r eiddo’n derbyn post. Caiff man gorffen y llwybr a gyfrifir ei benderfynu fel y glwyd swyddogol agored agosaf a ddefnyddir gan yr ysgol a ffafrir.

Caiff manylion cyfeiriad ymgeisydd eu penderfynu yn defnyddio data’r Local Land and Property Gazetteer (LLPG) a Phwyntiau Cyfeiriad Arolwg Ordnans.

Lle na ellir penderfynu llwybr cerdded diogel ar