Skip to Main Content

Datganiad i’r wasg – llyfrgelloedd Sir Fynwy yn annog preswylwyr i godi llyfr i wella llesiant meddwl

Gall darllen fynd ymhell i helpu llesiant meddwl. Dyna’r neges gan lyfrgelloedd Sir Fynwy wrth i’r cyngor nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl. Caiff pobl eu hannog i godi llyfr a manteisio i’r eithaf ar wasanaethau ar-lein Sir Fynwy yn ystod y cyfnod heriol hwn.

Dengys astudiaethau y gall darllen am bleser eich helpu i ddianc, defnyddio eich meddwl, ennyn creadigrwydd, helpu i ddysgu a darganfod pethau newydd a mynd â chi ar deithiau gwych. Mae’n dod wrth i’r Asiantaeth Ddarllen ddatgelu fod pobl ym Mhrydain yn darllen mwy yn ystod y cyfyngiadau symud, gydag 1 mewn 3 oedolyn yn darllen mwy, sy’n codi i bron 1 mewn 2 (45%) o bobl 18-24 oed.

Gall aelodau o lyfrgelloedd Sir Fynwy lawrlwytho eLyfrau ac eLyfrauSain am ddim drwy wasanaeth Borrowbox y cyngor. Borrowbox yw llwyfan digidol llyfrgell Cymru-gyfan ar gyfer eLyfrau ac eLyfrauSain. Mae aelodaeth llyfrgell ar-lein dros dro yn awr ar gael i unrhyw un sy’n dymuno defnyddio eu hamser adref i fwynhau llyfr.

Mae Adran Diwylliant a Chwaraeon Llywodraeth Cymru wedi darparu £250k i lyfrgelloedd cyhoeddus yng Nghymru, fydd yn eu galluogi i ddarparu adnoddau digidol Borrowbox ychwanegol i’w darllen a’u mwynhau. Defnyddiwyd y cyllid hefyd i ymestyn yr amrywiaeth teitlau sydd ar gael ar Borrowbox i gefnogi plant ac oedolion ifanc yn ystod y cyfnod cyfyngiadau symud, ynghyd â deunyddiau ar gyfer iechyd a llesiant.

Caiff preswylwyr hefyd eu hannog i ddarllen teitl “Darllen am Iechyd Meddwl” yn ystod y cyfnod heriol hwn. Gall y casgliad hwn helpu person i ddeall a rheoli eu hiechyd meddwl. Mae amrywiaeth o’r teitlau hyn hefyd ar gael i’w lawrlwytho fel eLyfrau neu eLyfrauSain.

Mae mwy o wybodaeth ar gael yn https://reading-well.org.uk/wales

Dywedodd y Cynghorydd Paul Jordan, Aelod Cabinet dros Hybiau Cymunedol: “Gwyddom fod hwn yn gyfnod anodd i bawb a gall wynebu’r amgylchiadau anarferol hyn gael effaith ar lesiant person. Gall rhywbeth mor fach â chodi llyfr fod o fudd i’n hiechyd meddwl a byddwn yn annog pawb i fanteisio i’r eithaf ar ein gwasanaethau llyfrgell ar-lein gwych.”

Cafodd Llyfrau Codi Hwyliau eu dewis am eu gallu i godi a gwella hwyliau. Mae rhai o’r teitlau ar gael drwy Borrowbox. I gael mwy o wybodaeth ewch i https://reading-well.org.uk/books/mood-boosting-books

Mae Llyfrgelloedd Sir Fynwy hefyd yn cynnig gwasanaeth cylchgronau ar-lein am ddim, RBdigital, gyda mynediad i rifynnau cyfredol ac ôl-rifynnau o ddewis eang o gylchgronau poblogaidd.

I gael mynediad i Borrowbox a Rbdigital, ewch i https://www.monmouthshire.gov.uk/community-hubs-libraries/digital-downloads/

DIWEDD