Skip to Main Content

Gall llifogydd yn Sir Fynwy gael eu hachosi gan:

  • Cyfnodau hir o law trwm yn effeithio ar lefelau afonydd
  • Llanw uchel yn llifo dros lannau afonydd ac amddiffynfeydd
  • Ffosydd wedi blocio
  • Draeniau gorlawn

Beth bynnag yw’r achos, gall yr effaith ar gymunedau yr effeithir yn uniongyrchol arnynt fod yn bellgyrhaeddol.

Gwyddom am y problemau y gall llifogydd eu hachosi a cheisiwn sicrhau fod trefniadau digonol ar waith i dderbyn rhybuddion llifogydd, monitro amodau lleol ac ymateb i geisiadau am help gan y gymuned.

Mae manylion am y rhybuddion llifogydd cyfredol ar gael ar wefan Gyfoeth Naturiol Cymru.

Cefnogaeth cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi cynhyrchu canllawiau ar lifogydd ar gyfer y cyhoedd. Mae’r canllawiau’n rhoi cyngor ymarferol ar baratoi ar gyfer llif a beth i’w wneud yn ystod ac ar´l llif. Mae’r canllawiau ar gael i’w lawrlwytho. Mae gwybodaeth hefyd ar gael ar lanhau ar´l llif  o Directgov.

Cymorth gan Gyngor Sir Fynwy

Cyn llifogydd, yr ydym yn:

  • Paratoi ar gyfer llifogydd posibl drwy gynllunio, hyfforddi ac ymarferion
  • Sicrhau fod system ymateb 24 awr ar waith
  • Monitro lleoliadau bregus
  • Ymgynghori gyda’r gymuned mewn ardaloedd allweddol sy’n agored i lifogydd

Yn ystod llifogydd, yr ydym yn:

  • Cydlynu gyda phob asiantaeth/sefydliad sy’n gysylltiedig
  • Rhoi gweithlu mawr ar waith i ymateb i anghenion y gymuned
  • Dosbarthu bagiau tywod
  • Cynghori ar faterion ymarferol/glanweithdra a diogelwch
  • Cynnig llety dros dro i deuluoedd y mae’r llifogydd wedi effeithio arnynt

Ar´l llifogydd, rydym yn:

  • Cynnig cyngor ar lanhau
  • Helpu’r gymuned i ddod ati ei hun
  • Clirio’r priffyrdd a thir cyhoeddus yr effeithiwyd arnynt
  • Darparu cyfleusterau ar gyfer symud eiddo a ddinistriwyd mewn cartrefi

 

Gallwch roi gwybod yn gyfrinachol, ond wrth gofrestru eich manylion fe allwch olrhain cynnydd yr hyn yr ydych wedi ei adrodd, a derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am y mater wrth iddo gael ei brosesu.

Os ydych eisoes wedi cofrestru drwy ddefnyddio ap Fy Sir Fynwy, sydd ar gael ar hyn o bryd ar ddyfeisiau AppleAndroid a Windows gallwch ddefnyddio’r un cyfeiriad e-bost a chyfrinair i fewngofnodi.

Floodline

Mae Floodline yn wasanaeth gwybodaeth´n 24 awr a weithredir gan Gyfoeth Naturiol Cymru mewn partneriaeth ag Asiantaeth yr Amgylchedd (codir y gyfradd leol ar bob galwad).

Gallwch gysylltu Floodline drwy ffonio 0345 988 1188

Mae gwasanaeth Typetalk ar gyfer pobl fyddar neu drwm eu clyw – 0345 602 6340

Pa wybodaeth allaf ei chael gan Floodline?

  • Gall gweithredwyr roi cyngor ymarferol ar unwaith ar risg llifogydd a beth i’w wneud cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd
  • Gwrando ar negeseuon wedi’u recordio sy’n cynnwys gwybodaeth am unrhyw rybuddion llifogydd sydd mewn grym yn eich ardal leol, 24 awr y dydd
  • Amrywiaeth o daflenni gwybodaeth llifogydd am ddim a chanllawiau cyngor ymarferol

Apiau ffonau clyfar i rybuddio am lifogydd

Mae apiau ffonau symudol bellach ar gael i roi rhybuddion llifogydd a chyngor ategol i’r cyhoedd.

Er enghraifft, mae “Flood Alerts” yn defnyddio data byw oddi wrth Gyfoeth Naturiol Cymru i ddarparu rhybuddion llifogydd mewn amser real. Bydd y gwasanaeth rhad ac am ddim hwn yn helpu’r cyhoedd a busnesau i ymateb i lifogydd posibl.

Strategaeth Rheoli Risg Llifogydd

Dan Reoliadau Risg Llifogydd 2009, roedd yn ofynnol i Gyngor Sir Fynwy – fel yr Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol – i ddynodi’r ardaloedd hynny yn y sir mewn risg o lifogydd gyda chanlyniadau sylweddol – Ardaloedd Risg Llifogydd. Mae’r rhain yn ardaloedd neu glystyrau o ardaloedd uwchben y trothwy risg llifogydd yn effeithio ar boblogaeth o fwy na 5,000 mewn risg. Nid oedd y gwaith yn cynnwys y prif afonydd megis yr Wysg, Gwy a Mynwy ac ardaloedd y mae’r yn effeithio arnynt gan fod Gyfoeth Naturiol Cymru yn deli hwy.

Felly nid oes angen mwy o weithredu ar unwaith dan y Rheoliadau Risg Llifogydd.

Fodd bynnag mae ardaloedd eraill a ddynodwyd fel bod mewn risg llifogydd islaw’r trothwy a bydd y rhain yn sail strategaeth Rheolaeth Risg Llifogydd Lleol, a gaiff ei ddatblygu a’i gefnogi drwy barhau i gasglu gwybodaeth ar ddigwyddiadau llifogydd lleol.