Skip to Main Content

Homesearch Sir Fynwy

Homesearch Sir Fynwy yw cynllun gosod sy’n cael ei reoli fel partneriaeth rhwng y cyngor a’r tair cymdeithas dai fwyaf yn y sir. Dim ond un ffurflen gais y bydd angen i chi ei llenwi, ni waeth pa gymdeithas dai yr ydych yn dymuno cael eich ailgartrefi ganddi. I gofrestru, ewch i wefan Homesearch Sir Fynwy.

Mae eich llyfrgell leol yn darparu gwasanaeth rhyngrwyd am ddim y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau eich cais. Os oes angen cymorth arnoch i lenwi’r ffurflen, neu os oes angen i chi gael y ffurflen mewn print bras, Braille neu mewn iaith arall, ffoniwch 0845 900 2956 neu anfon e-bost at info@monmouthshirehomesearch.co.uk.

Llety Rhent Preifat

Os oes angen i chi gael llety yn gyflym, byddwch yn gallu ei gael yn gynt fel arfer trwy ddod o hyd i Lety Rhent Preifat. Efallai y byddwn yn gallu eich helpu i gael bond trwy’r Cynllun Bond Right Move. Unwaith y byddwch wedi dod o hyd i lety, y gallwch fod yn gymwys i gael Cymhorthdal Tai.

Cymdeithasau Tai

Ar hyn o bryd mae chwe Cymdeithas Tai yn Sir Fynwy: Cymdeithas Tai Sir Fynwy, Cartrefi Melin Cyf., Pobl, United Welsh, Muir Group a Chymdeithas Tai Aelwyd.

Budd-dal Tai

Os oes angen cymorth arnoch i dalu eich rhent, y gallech fod yn gymwys i gael Cymhorthdal Tai neu Fudd-dal Tai.

Perchnogion Tai neu Brynwyr Tro Cyntaf

Ar hyn o bryd, rydym yn cynnig nifer o gynlluniau gwahanol i brynwyr tro cyntaf. Mae’r rhain yn cynnwys:

I gael mwy o wybodaeth ac eiddo sy’n cael eu hysbysebu ar hyn o bryd ewch i wefan Homesearch Sir Fynwy.

Llety Pobl Hŷn

Mae Llety Pobl Hŷn yn galluogi pobl i fyw’n annibynnol mewn amgylchedd diogel sydd â chymorth wrth law os bydd ei angen.

A Allaf Gael Help i Ddodrefnu Fy Nghartref?

Mae ychydig o asiantaethau a allai gynnig dodrefn ail law o ansawdd da i chi.