Skip to Main Content

Rydym yn cefnogi pobl i aros yn annibynnol ac i gadw rheolaeth dros eu bywydau. Byddwn yn gweithio gyda chi i nodi’r hyn sy’n bwysig i chi, wrth i ni edrych gyda’n gilydd ar eich dewisiadau ymhlith yr ystod o opsiynau sydd ar gael. Y nod yw eich helpu i gynnal ansawdd bywyd da, neu eich helpu i ddod o hyd i bobl eraill a allai roi cymorth i chi.

Cafodd cyfraith ei phasio yng Nghymru sy’n anelu i gynnal a gwellallesiant pobl mewn angen. Gelwir hyn y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru). Caiff y ffordd y gweithiwn ei lywio gan y gyfraith. Anelwn i:

  • Gwrando ar yr hyn sy’n bwysig i chi
  • Cyfathrebu â chi mewn ffordd yr ydych yn ei deall
  • Gweithio gyda chi, a dwyn ynghyd dim ond y bobl hynny a all eich helpu i fyw eich bywyd eich hun
  • Bod yn sensitif ynglŷn â pha lle yr ydym yn ei ddewis i wrando arnoch
  • Gweithio gyda chi i ganfod atebion i unrhyw anawsterau y gallech fod yn eu profi
  • Mynd ati i ymgysylltu â’n cymunedau lleol er mwyn datblygu cyfleoedd a fydd yn helpu pobl i gryfhau eu rhwydweithiau cymorth
  • Defnyddio ein hadnoddau mor greadigol a hyblyg ag y bo modd.

Pwy allai fod yn awyddus i gysylltu â ni?

Os ydych yn oedolyn (dros 18 oed) sydd â:

  • Cyflwr iechyd tymor byr neu dymor hir
  • Anabledd corfforol
  • Anabledd dysgu
  • Anghenion iechyd meddwl
  • Anhwylder ar y sbectrwm awtistig
  • Neu os ydych yn ofalwr

byddwn yn gweithio gyda chi er mwyn canfod yr hyn sy’n bwysig i chi, ac i weld a ydych yn gymwys i gael cymorth gofal cymdeithasol. Os ydych yn gymwys i gael cymorth, byddwch yn cael asesiad ariannol i weld a oes angen i chi dalu tuag at y gost.

Sut i gysylltu â ni

Cysylltwch â’n llinellau dyletswydd FISH (Finding Individual Solutions Here):

Trefynwy / Brynbuga / Rhaglan – 01600 773041
Y Fenni – 01873 735885
Cas-gwent / Cil-y-coed – 01291 635666