Skip to Main Content

Os yw dyddiad geni eich plentyn rhwng 1 Medi 2019 a 31 Awst 2020, mae’n gymwys i ddechrau mewn uned feithrin ym mis Medi 2024. Bydd y broses Derbyn ar gyfer plant sydd i ddechrau ysgol gynradd (dosbarth derbyn) ar gyfer mis Medi 2024 yn dechrau ar 6 Tachwedd 2023. Rhoddir amserlen y cylch derbyniadau islaw:

  • Dyddiad y bydd pecynnau cais ar gael: 6 Tachwedd 2023
  • Dyddiad cau ceisiadau: 9 Ionawr 2024 am 5pm
  • Dyddiad cynnig: 16 Ebrill 2024

Gofynnir i chi sicrhau eich bod yn llenwi ac yn dychwelyd eich cais cyn y dyddiad cau a gyhoeddwyd, gan y bydd methiant i wneud hynny yn golygu y caiff eich cais ei gyfrif fel un hwyr fydd yn gostwng y cyfle o gael cynnig lle yn eich dewis ysgol.

Sut mae gwneud cais?

Mae gan Gyngor Sir Fynwy system ymgeisio ar-lein sydd ar gael i chi ei defnyddio wrth gyflwyno cais eich plentyn. Mae’r system yn eich galluogi chi i weld a newid cais eich plentyn hyd at y dyddiad cau sef 9 Ionawr 2024 am 5pm.

Nodiadau cyfarwyddyd i’ch helpu i gwblhau’ch cais ar-lein

Fe’ch cynghorir hefyd i ddarllen Llyfryn Dechrau Ysgol 2024-25

E-bost: accesstolearning@monmouthshire.gov.uk

Ffôn: 01633 644508

Cyfeiriad:

Cyngor Sir Fynwy

Neuadd y Sir,

Y Rhadyr,

Brynbuga,

Sir Fynwy

NP15 1GA