Skip to Main Content

Dyma beth gwybodaeth ar drefnu eich priodas yn Sir Fynwy.

Pa mor fuan y gallaf drefnu’r cofrestrydd?

Gallwch wneud trefniant darpariaethol gyda’r Cofrestrydd Arolygol cyn gynted â’ch bod wedi penderfynu ar y lleoliad ac wedi dewis dyddiad. Gellir gwneud hyn dros y ffôn, a byddwn yn dweud wrthych pa amserau sydd ar gael ar y dyddiad hwnnw.

Dim ond drwy gyflwyno eich hysbysiad priodas y gallwch gadarnhau’r archeb.

Hysbysiad priodas

Yn ôl y gyfraith mae’n rhaid i chi roi hysbysiad o briodas, sy’n ddatganiad ffurfiol o’ch bwriad i briodi. Mae angen i’r naill a’r llall ohonoch roi hysbysiad o briodas ac mae ffi safonol am hyn. Mae’n rhaid i chi roi hysbysiad yn y Swyddfa Gofrestru yn yr Ardal Gofrestru lle’r ydych wedi byw am saith diwrnod yn union cyn rhoi’r hysbysiad..

Os ydych yn byw yn Sir Fynwy mae’n rhaid i chi roi hysbysiad i Wasanaeth Cofrestru Sir Fynwy. Os yw’r naill neu’r llall ohonoch neu’r ddau/ddwy ohonoch o ardal arall, yna mae’n rhaid i chi roi hysbysiad yn eich swyddfa cofrestru leol os na chewch eich cynghori yn wahanol.

Os nad ydych yn ddinesydd Prydeinig, yn frodor gwlad yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (EEA) neu os nad oes gennych dystysgrif yn rhoi hawl i chi fyw yn y Deyrnas Unedig rydych yn destun rheolaeth mewnfudo ac mae’n rhaid i chi roi hysbysiad mewn Swyddfa Gofrestru Ddynodedig. Mae mwy o wybodaeth ar gael gan y Cofrestrydd Arolygol neu gan y Swyddfa Gartref.

Faint o hysbysiad sydd angen i ni ei roi?

Ni allwch roi hysbysiad priodas fwy na 12 mis cyn dyddiad y briodas. Ni ellir cynnal priodas tan 29 diwrnod ar ôl i chi roi’r hysbysiad.

Mae angen i chi wneud apwyntiad drwy ffonio 01873 735435

Beth sydd angen i chi ei ddangos i ni?

Bydd angen i chi ddod â’r dilynol gyda chi i’r apwyntiad:

Y ffi gyfredol o £35 (nid yw’r ffi hon yn ad-daladwy)

Pasbort dilys NEU dystysgrif geni ynghyd ag un math arall o adnabyddiaeth megis trwydded yrru neu gerdyn meddygol. Os nad oes gennych basbort ac y cawsoch eich geni ar ôl 1 Ionawr 1983, bydd angen i chi ddod â’ch tystysgrif geni lawn ynghyd â thystysgrif geni eich mam neu basbort i brofi eich cenedligrwydd

Os ydych wedi ysgaru byddwch angen prawf o’ch ysgariad (decree absolute gyda stamp llys)

Os cawsoch eich ysgaru mewn gwlad dramor, byddwn angen gweld y dogfennau gwreiddiol a gyhoeddwyd gan y wlad honno. Os yw’r dogfennau hynny mewn iaith dramor, bydd angen i ni weld cyfieithiad Saesneg. Os nad yw’r wlad arall wedi cyhoeddi unrhyw ddogfennau, byddwn yn dweud wrthych beth allwn ei dderbyn fel prawf o ysgariad. Bydd ffi ychwanegol (o hyd at £75) os oes gennych bapurau ysgariad tramor.

Os ydych yn weddw byddwn angen gweld copi ardystiedig o dystysgrif marwolaeth eich diweddar briod

Os ydych wedi eich newid eich enw drwy weithred newid enw neu ddatganiad statudol, byddwn angen gweld y dogfennau hynny

Prawf o’ch cyfeiriad cyfredol (trwydded yrru gyfredol, bil Treth Gyngor neu fil neu gyfriflen banc diweddar)

Os ydych eisoes wedi priodi eich gilydd mewn gwlad dramor, dim ond os credwch nad oedd y briodas flaenorol yn gyfreithlon y bydd angen i chi briodi yma.

Os yw un ohonoch dan 18 oed, byddwn angen gweld prawf fod eich rhieni neu warcheidwad yn cytuno i’r briodas. Os yw’ch rhieni wedi ysgaru, gallwn hefyd fod angen gweld y gorchymyn llys sy’n rhoi cystodaeth i un ohonynt

Gallwch gysylltu â’r swyddfa i gael cyngor ar unrhyw un o’r uchod a bydd ein tîm yn falch i’ch helpu.

E-bost: ceremonies@monmouthshire.gov.uk

Cyfeiriad:

Swyddfa Gofrestru

Cyngor Sir Fynwy

Rhadyr

Brynbuga
Sir Fynwy