Skip to Main Content

Priodi neu ffurfio eich partneriaeth sifil yn Sir Fynwy

Y penderfyniad cyntaf i’w wneud wrth gynllunio eich priodas neu bartneriaeth sifil yw ble hoffech gynnal eich seremoni. Gallwch ddewis o blith:

  • y swyddfa gofrestru ym Mrynbuga
  • un o’n lleoliadau cymeradwy
  • neu eglwys neu adeilad sydd wedi cofrestru

Ni allwch ffurfio partneriaeth sifil mewn eglwys.

Swyddfa Gofrestru

Mae’r Swyddfa Gofrestru yn Rhadyr, Brynbuga. Gallwch briodi neu ffurfio eich partneriaeth sifil yng nghwmni hyd at pedwar o westeion. Mae’r Swyddfa Gofrestru ar gael rhwng dyddiau Llun a dyddiau Iau a dim ond y gofynion cyfreithiol sylfaenol yn unig y byddai’n ei gynnwys.

Os oes gennych fwy na pedwar o westeion neu os dymunwch bersonoli’r seremoni, gallwn hefyd gynnig yr Hen Barlwr ym Mrynbuga ar gyfer y cwpl sy’n priodi a hyd at 20 o westeion. Mae’r ystafell hon ar gael saith diwrnod yr wythnos.

Mae mwy o wybodaeth ar gael yn:

Daeth Deddf Priodasau (Cyplau yr Un Rhyw) 2013 i rym ar 13 Mawrth 2014, sy’n galluogi cyplau o’r un rhyw i briodi (yn hytrach na ffurfio Partneriaeth Sifil). I gael mwy o wybodaeth gweler:

Cafodd darpariaethau ar gyfer cyplau i drosi eu partneriaeth sifil yn briodas eu gweithredu ar 10 Rhagfyr 2014.

Cymeradwywyd y rheoliadau diwygiedig gan y Senedd ac mae’r polisi yn awr yn cynnig mwy o ddewis ar gyfer cyplau ar sut a lle y gallant drosi eu partneriaeth sifil yn briodas.

Mae crynodeb o’r darpariaethau ar wefan Gov.uk .

Mae Stonewall, yr elusen i bobl hoyw, lesbiaid a phobl ddeurywiol wedi cynhyrchu canllawiau ar briodi i gyplau yr un rhyw.