Skip to Main Content

Mae’r Swyddfa Gofrestru yn parhau i gynnig apwyntiadau wyneb yn wyneb i gofrestru genedigaethau ac ar gyfer apwyntiadau hysbysiadau cyfreithiol, yn unol â chyngor ym mholisi’r Llywodraeth. Bydd mynediad i’r Swyddfa Gofrestru trwy apwyntiad yn unig i gyfyngu ar risgiau i staff a’r cyhoedd a byddwn yn cymryd rhywfaint o wybodaeth gennych cyn yr apwyntiad trwy e-bost neu ffôn er mwyn lleihau amseroedd apwyntiadau. I drefnu mynediad i’r Swyddfa Gofrestru am unrhyw reswm arall, cysylltwch â ni fel isod.

Bydd system un ffordd wedi’i marcio’n glir o amgylch y swyddfa ac mae hylif diheintio dwylo ar gael. Yn anffodus ni fyddwn yn gallu darparu cyfleusterau tŷ bach ar yr adeg hon. Byddwn yn dilyn cyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru i bellhau’n gymdeithasol ac osgoi pob cyswllt corfforol bob amser. Mae’r canllawiau hyn ar waith i’n cadw ni i gyd yn ddiogel, parchwch ein staff a chydymffurfiwch ag unrhyw geisiadau a wneir i chi. Byddem yn gofyn i unrhyw blant neu unigolion mewn grŵp risg uchel i beidio â mynychu ein swyddfeydd, a bod presenoldeb yn cael ei gadw i’r lleiafswm beth bynnag.

Ni allwn ddarparu offer amddiffynnol personol i aelodau’r cyhoedd ond nodwch y gofynnir i chi wisgo mwgwd wyneb yn y swyddfa bob amser. Os oes gennych eithriad meddygol i wisgo mwgwd wyneb, rhowch wybod i ni yn unol â hynny cyn eich presenoldeb.

Os ydych am wneud apwyntiad anfonwch e-bost atom yn  RegisterOffice@monmouthshire.gov.uk   neu ffoniwch ni ar 01873 735435. 

Mae hefyd gennym ffurflen ar-lein lle gallwch gysylltu â ni am ein gwasanaethau.

Gellir cynnal seremonïau Priodas a Phartneriaeth Sifil yn unol â chyngor Llywodraeth Cymru a’r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol. Bydd y seremonïau hyn yn cael eu hailstrwythuro i sicrhau’r diogelwch a’r amddiffyniad mwyaf posibl i staff ac aelodau’r cyhoedd. Byddwn yn trafod y fformat yn fanwl gyda chi i sicrhau eich bod yn hapus i symud ymlaen ar y sail hon. 

Sylwch fod nifer y gwesteion ar gyfer pob seremoni yn cael ei leihau oherwydd canllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru. Ar gyfer seremonïau yn y Swyddfa Gofrestru ac yn yr Hen Barlwr, trafodwch y sefyllfa bresennol gyda ni gan ei bod yn destun newid ar fyr rybudd wrth i’r canllawiau newid. Ar gyfer seremonïau mewn Adeiladau Cymeradwy, cysylltwch â’r lleoliad yn uniongyrchol.

Rydym hefyd yn gallu mynychu Mannau Addoli i gofrestru priodasau, ar yr amod bod asesiad risg manwl wedi’i dderbyn sy’n sicrhau diogelwch ein haelodau staff. Mae’r un peth yn berthnasol i Safleoedd Trwyddedig sy’n penderfynu ailagor ar gyfer seremonïau yn unig o’r 1af  Mawrth 2021. 

Os ydych chi am gysylltu â ni ynglŷn â’ch seremoni, anfonwch e-bost atom yn  Ceremonies@monmouthshire.gov.uk   neu ffoniwch y swyddfa ar 01873 735435. Rydym yn delio â nifer fawr o ymholiadau yn ddyddiol felly byddwch yn amyneddgar wrth i ni weithio drwyddynt, os gwelwch yn dda. Rydym bellach yn gallu cymryd archebion newydd ond nodwch fod yn rhaid cydymffurfio ag unrhyw gyfyngiadau sydd ar waith ar ddyddiad eich seremoni. Efallai yr hoffech chi hefyd drafod unrhyw gyfyngiadau / argaeledd gyda’ch lleoliad. 

Rydym yn diolch ichi am eich cydweithrediad yn ystod yr amser hwn, parhewch i ddilyn cyngor y Llywodraeth a ICC a gofalu am eich gilydd. Gyda dymuniadau gorau, Gwasanaeth Cofrestru Sir Fynwy. 

Mae Swyddfa Gofrestru Sir Fynwy drws nesaf i Neuadd y Sir ym Mrynbuga

Cyngor Sir Fynwy

Rhadyr

Brynbuga

NP15 1GA

I gael mwy o wybodaeth neu os oes gennych ymholiad gallwch gysylltu â ni dros y ffôn yn

01873 735435

Mewn achos argyfwng tu allan i oriau swyddfa ffoniwch 0300 123 1055, os gwelwch yn dda

neu drwy e-bost registeroffice@monmouthshire.gov.uk

Rydym ar agor

Dyddiau Llun i ddyddiau Iau         09:00 – 13:00                     13:30 – 16:30

Dyddiau Gwener                              09:00 – 13:00                     13:30 – 16:00