Skip to Main Content

GOFALU AM ANIFEILIAID MEWN ARGYFWNG

Mae’n bwysig ystyried lles eich anifeiliaid anwes wrth baratoi ar gyfer argyfwng. Os gofynnir i chi adael eich cartref yn sydyn, er enghraifft oherwydd llifogydd, bydd angen i chi fod wedi ystyried anghenion eich anifail anwes yn ogystal â’ch anghenion eich hun.

Os cewch eich symud i ganolfan orffwys awdurdod lleol, gallwch fynd â’ch anifeiliaid anwes gyda chi – ond chi fydd yn gyfrifol am ofalu amdanynt tra’ch bod yn y ganolfan.

Dylai fod yn bosibl adnabod eich anifeiliaid bob amser gyda thagiau ar eu coleri neu ficrosglodion. Dylai tagiau coler ddangos eich enw, rhif ffôn a chyswllt argyfwng. Er y gall coleri fynd ar goll, mae microsglodion yn ffordd ddiogel o sicrhau y gellir adnabod  anifail anwes drwy ddyfais electronig a gaiff ei gosod yn ysgwydd yr anifail. Gan y gall rhai anifeiliaid ddianc mewn sefyllfa argyfwng, bydd dull parhaol o adnabod yn cynyddu eich cyfle o gael eich anifail yn ôl.

Os bu’n rhaid i chi adael eich cartref ac y byddwch yn gorfod byw oddi cartref am gyfnod hir, dylech roi tag dros dro ar eich anifail anwes gyda rhif ffôn heblaw eich rhif cartref. Os yw rhywun yn dod o hyd i’ch anifail ac yn ceisio ffonio eich rhif ffôn, mae’n debygol iawn na fyddwch yno neu na fydd y ffôn yn gweithio.

Tynnwch nifer o luniau o’ch holl anifeiliaid a’u cadw gyda’ch papurau yswiriant pwysig y byddech yn mynd â nhw gyda chi os ydych yn gorfod gadael. Byddwch yn siŵr bod y lluniau’n dangos unrhyw farciau neilltuol a fyddai’n ei gwneud yn haws i adnabod eich anifail. Gall y lluniau hyn helpu i’ch ail-uno gydag anifail sy’n mynd ar goll os cawsoch eich gwahanu yn ystod argyfwng.

Os yw’ch anifail anwes angen meddyginiaeth, dylech bob amser fod â chyflenwad wrth gefn rhag ofn fod argyfwng yn digwydd ac na allwch fynd at y milfeddyg.

Cadwch gopïau o gofnodion meddygol eich anifeiliaid mewn lle cyfleus fel y bydd anifeiliaid yn gwybod am unrhyw gyflwr iechyd blaenorol neu anghenion meddygol os cânt eu trin mewn argyfwng.

ANGEN SYMUD EICH ANIFEILIAID ANWES?

Byddwch angen cael blychau cludo anifeiliaid yn eich cartref rhag ofn y bydd angen i chi adael eich cartref gyda’ch anifeiliaid. Ar gyfer ymlusgiaid neu bysgod, bydd angen tanciau plastig ysgafn y telir eu defnyddio ar gyfer cludo anifeiliaid mewn sefyllfa frys.

Yn ogystal â’ch cyflenwad arferol o fwyd anifeiliaid, dylech gael digon o fwyd am o leiaf wythnos i’w ddefnyddio mewn argyfwng mawr. Parhewch i roi’r un bwyd ag arfer i’ch anifeiliaid a’i roi iddynt mor agos i’r amser arferol ag sydd modd. Mae eu cadw ar drefn arferol, orau gallwch, yn helpu gostwng y straen a all fod arnynt.

Pan fyddwch yn gwagu eich cartref ar frys, dylech hefyd fynd â hoff ddanteithion eich anifail gyda chi. Gall teganau cnoi hefyd helpu i ddiddanu ci a allai fod yn rhaid gael ei gyfyngu am gyfnodau hirach nag mae wedi arfer.

Os ydych yn gorfod symud o’ch cartref ac yn methu mynd â’ch anifeiliaid gyda chi, rhowch nodyn ar y drws blaen neu ar ddrws gegin yn nodi nifer yr anifeiliaid anwes sy’n byw yn y cartref a rhif cyswllt argyfwng rhag ofn bod yn rhaid symud yr anifeiliaid heb i chi fod yn gwybod. Heb hyn, efallai na fydd achubwyr bob amser yn gwybod fod anifeiliaid yn y cartref, yn neilltuol gyda chathod a all guddio pan maent yn ofnus.

Yn gyffredinol, dylech bob amser adael digonedd o ddŵr ffres i anifeiliaid a gaiff eu gadael adref ar ben eu hunain. Er nad yw’n ddoeth gadael mwy o fwyd na’r arfer allan, gall dŵr ychwanegol ddiogelu’r anifeiliaid rhag dadhydradu os ydynt yn cael eu gadael adref.

Meddyliwch am eich anifeiliaid anwes fel y byddech am eich teulu!

OS COLLWCH EICH ANIFAIL MEWN ARGYFWNG

Dylech wybod lle mae’r llochesi anifeiliaid a sefydliadau achub lleol yn eich ardal. Gall fod angen i chi ymweld â nhw ar ôl argyfwng mawr i ofalu am eich anifail anwes os cewch eich gwahanu.

Mae’n bwysig eich bod yn dechrau edrych am anifail coll cyn gynted ag y sylweddolwch ei fod wedi mynd. Gall rhai llochesi anifeiliaid ei chael yn anodd gofalu am nifer fawr o anifeiliaid os ydynt yn cyrraedd yn ystod argyfwng.

Mae’n bwysig gwneud yn siŵr y gellir adnabod eich anifail anwes.

I FFWRDD O’CH CARTREF – TREFNIADAU AR GYFER EICH ANIFEILIAID ANWES

Dywedwch wrth eich cymdogion, ffrindiau, perthnasau a’ch landlord fod gennych anifeiliaid anwes sydd angen eu gofal pe byddai argyfwng ac nad ydych o gwmpas.

Gwnewch yn siŵr fod gan ffrind neu berthynas allweddi i’ch cartref ac yn gyfarwydd â’ch anifeiliaid anwes. Ystyriwch ddechrau “system cyfeillion” yn eich ardal i sicrhau y bydd rhywun yn edrych i wneud fod eich anifeiliaid yn iawn pe byddech yn absennol mewn argyfwng, a chytuno gwneud yr un fath iddyn nhw.

Dynodwch nifer o leoliadau posibl lle gallech fynd â’ch anifeiliaid anwes os oes angen i chi symud o’ch cartref. Gallai hyn gynnwys cenelau, clinigau milfeddygol gyda lle i anifeiliaid aros, cyfleusterau cymhennu, clybiau cathod a chŵn, a chlybiau hyfforddiant. Peidiwch anghofio ystyried ffrindiau a pherthnasau hefyd.

Chi sy’n gyfrifol am les eich anifail anwes.

SEFYDLIADAU LLES ANIFEILIAID

Dylai pob sefydliad lles anifeiliaid fod â chynlluniau a gweithdrefnau fydd yn esbonio sut y byddant yn ymateb i sefyllfa argyfwng.

Mae’r Gwasanaeth Cynllunio Argyfwng wedi cynhyrchu templed o Gynllun Argyfwng ar gyfer Sefydliadau Lles Anifeiliaid.

Nid yw’r templed yn cynnwys popeth – mae’n fan cychwyn ar gyfer datblygu eich cynllun unigol, penodol eich hun. Gall fod trefniadau/gweithdrefnau eisoes yn eu lle y gallwch eu cynnwys yn y Cynllun neu restri gwirio ychwanegol y gallwch eu datblygu.

Mae’n bwysig neilltuo amser i wneud y trefniadau y bydd angen i chi eu rhoi ar waith i ymateb i argyfwng. Nid ar ganol digwyddiad yw’r amser i geisio ystyried pwy ddylai fod yn gwneud beth. Dylai pawb sy’n ymwneud fod yn gwybod o’u cyfrifoldebau a sut y dylent eu cyflawni.

Dolen i’r templed