Skip to Main Content

Mae cyd-nerthu cymunedol yn ymwneud â chymunedau’n defnyddio adnoddau a gwybodaeth leol i’w helpu eu hunain yn ystod argyfwng mewn ffordd sy’n ategu’r gwasanaethau argyfwng lleol.

Gall atebion i’r 3 cwestiwn dilynol eich helpu i asesu pa mor barod yw’ch cymuned a’r hyn y gallwch ei wneud.

  1. Ydych chi’n gwybod am y risgiau a allai eich wynebu chi a’ch cymuned e.e. llifogydd?
  2. Sut y gallwch helpu eich hun a’r rhai o’ch amgylch yn ystod argyfwng?
  3. Beth allwch chi ei wneud i gymryd rhan mewn cynllunio argyfwng yn eich cymuned?

Bydd eich cymuned wedi paratoi’n well i ymdopi yn ystod ac ar ôl argyfwng pan mae pawb yn cydweithio yn defnyddio eu gwybodaeth leol. Gall deall pethau fel gofynion y grwpiau fwyaf anghenus mewn argyfwng wneud gwahaniaeth go iawn. Gallai dynodi a chynllunio ar gyfer y risgiau y gallech eu cael yn ystod llifogydd difrifol, tywydd eithriadol o boeth neu eira eich helpu i ostwng yr effaith bosibl arnoch chi a’r gymuned ehangach.

Datblygwyd casgliad o adnoddau a dulliau cyd-nerthu cymunedol https://www.gov.uk/government/publications/community-resilience-resources-and-tools

i’ch annog i gymryd camau i baratoi ar gyfer argyfwng a meddwl am y risgiau sy’n eich wynebu. Mae hyn yn cynnwys:

• Paratoi ar gyfer argyfyngau: canllawiau i gymunedau

• Pecyn cymorth cynllun argyfwng cymunedol

• Templed cynllun argyfwng cymunedol