Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy yn ymdrechu i gadw’r ffyrdd mewn cyflwr da, felly mae’n angenrheidiol cynnal atgyweiriadau hanfodol.

medical-notes-symbol-of-a-list-paper-on-a-clipboard (1)

Cliciwch ar yr eicon uchod i weld yr adroddiad ffyrdd diweddaraf a’r adroddiad cau.

Mae map gwaith ffordd a gynhelir yn allanol i Gyngor Sir Fynwy drwy wefan One Network ar gael.

Caiff y map ei ddiweddaru bob ychydig funudau yn dangos gwaith ffordd ar draws y rhwydwaith priffyrdd.

Caiff data gwaith ffordd ei ddarparu drwy glicio symbol, er enghraifft isod.

Sut y ydym yn cydlynu gwaith ffordd ar briffyrdd

Rheolwyr y Rhwydwaith Priffyrdd sy’n gyfrifol am gydlynu a monitro gwaith stryd sy’n cael ei gwblhau ar rwydwaith ffyrdd Sir Fynwy.

Fel rhan o’n cyfrifoldebau, rydym yn cynnal cyfarfodydd chwarterol gyda chwmnïau cyfleustodau (cydlynu gwaith/digwyddiadau a chyfarfodydd gwrthdaro Pwyllgor Cyfleustodau ac Awdurdodau Priffyrdd De Ddwyrain Cymru).

Yn y cyfarfod rydym yn trafod prosiectau mawr sydd ar y gweill, gwaith sydd angen ei wneud yn y dyfodol a digwyddiadau a allai effeithio ar briffyrdd, ynghyd â materion eraill sy’n gysylltiedig. Mae’r wybodaeth am y gwaith sydd ar y gweill yn cael ei chrynhoi i greu rhaglen waith a’i nodi ar y gofrestr gwaith stryd er mwyn canfod unrhyw wrthdaro posibl.

Mae’r gofrestr gwaith stryd yn cynnwys gwybodaeth am:

  • y cwmni sydd yn gwneud y gwaith
  • y dyddiadau y bwriedir dechrau a gorffen y gwaith
  • lleoliad y gwaith
  • disgrifiad o’r gwaith sydd angen ei wneud

Yna mae’r wybodaeth hon yn cael ei hychwanegu i’r adroddiad gwaith ffordd wythnosol

Adran 58

Mae Adran 58 yn hysbysiad rhybudd ffurfiol a gyhoeddir gan yr awdurdod, sy’n hysbysu’r holl bartïon sydd â diddordeb bod gwaith ffordd sylweddol yn cael ei wneud. Anfonir yr hysbysiad hwn tua 3 mis cyn dechrau’r gwaith, er mwyn galluogi pob parti dan sylw i wneud unrhyw waith sydd ei angen. Unwaith y bydd y gwaith wedi’i gwblhau, caiff y ffordd ei ddiogelu am hyd at 5 mlynedd ar y mwyaf, yn dibynnu ar y math o waith. Enghreifftiau o waith dan sylw:

  • ailadeiladu priffordd
  • ail-wynebu
  • tawelu traffig
  • trefn ffyrdd newydd

Trwydded Gwaith Stryd

Os ydych chi neu’ch sefydliad yn dymuno gosod neu gynnal offer preifat yn y briffordd gyhoeddus, rhaid i chi gael trwydded oddi wrth yr Awdurdod Priffyrdd perthnasol. Rhoddir trwyddedau o’r fath dan Adran 50 Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991. Rhaid i berchennog y cyfarpar arfaethedig, a/neu’r tir y bydd y cyfarpar yn ei wasanaethu, gwneud y cais.

Os ydych chi’n dymuno cloddio yn y briffordd gyhoeddus ar gyfer unrhyw waith arall nad yw’n cynnwys cyfarpar yna bydd angen i chi wneud cais o dan Adran 171 o Ddeddf Priffyrdd 1980.

Cyn cyflwyno cais, mae’n ofynnol ichi ffonio 01633 644644 i drefnu cyfarfod ar y cyd ag arolygydd. Yn ystod y cyfarfod bydd yr arolygydd yn rhoi cyngor ar unrhyw broblemau posibl ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.

Cais: Trwydded Adran 50

Cais: Trwydded Adran 171

Gwnewch gais am archebu lle ar y ffordd

Rhaid i unigolyn preifat sy’n dymuno meddiannu’r briffordd gyhoeddus (NID AR GYFER CLODDIO) am unrhyw reswm, gwblhau hysbysiad meddiannaeth ffordd.  Gall methu â gwneud hynny achosi gwrthdaro gwaith.

Ar gyfer cloddio, dilynwch gyfeiriadau Trwydded Gwaith Stryd.

Arwyddion Traffig Dros Dro

Rhaid i chi wneud cais am ganiatâd i osod arwyddion traffig dros dro ar y briffordd gyhoeddus.

Cais: Ffurflen Gais Arwyddion Traffig Dros Dro

Os ydych yn dod ar draws unrhyw broblemau goleuadau traffig gallwch roi gwybod i ni gan ddefnyddio’r ffurflen isod.

Gallwch roi gwybod yn gyfrinachol, ond wrth gofrestru eich manylion fe allwch olrhain cynnydd yr hyn yr ydych wedi ei adrodd, a derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am y mater wrth iddo gael ei brosesu.

Os ydych eisoes wedi cofrestru drwy ddefnyddio ap Fy Sir Fynwy, sydd ar gael ar hyn o bryd ar ddyfeisiau AppleAndroid a Windows gallwch ddefnyddio’r un cyfeiriad e-bost a chyfrinair i fewngofnodi.