Skip to Main Content

Yn dilyn nifer o ddigwyddiadau difrifol, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ei gwneud yn ddyletswydd i bob awdurdod lleol yn Lloegr a Chymru greu Grwp Ymgynghorol Diogelwch i roi cyngor am ddim i drefnwyr digwyddiadau.

Dylid nodi fod unrhyw gyngor a dogfennau a gyhoeddir gan y Grwp Ymgynghorol Diogelwch er cyngor yn unig ac nid yw’n drwydded i symud ymlaen gyda gweithgareddau y mae angen trwydded amdanynt.

Mae’n rhaid i chi gael y drwydded ofynnol cyn cynnal unrhyw weithgareddau y mae angen trwydded amdanynt dan Ddeddf Trwyddedu 2003 neu ar gyfer unrhyw weithgareddau eraill y gall fod angen trwydded ar eu cyfer. Mae ffurflenni cais am drwydded ar y dudalen Trwyddedu neu cysylltwch â’r adran drwyddedu ar 01633 644785 neu anfon neges e-bost at licensing@monmouthshire.gov.uk i gael mwy o wybodaeth.

Sut gall y Grwp Ymgynghorol Diogelwch fy helpu gyda fy nigwyddiad?

Bydd y Grwp Ymgynghorol Diogelwch yn rhoi cyngor arbenigol ar faterion diogelwch ar gyfer eich digwyddiad yn ogystal ag unrhyw ofynion cyfreithiol. Mae Grwp Ymgynghorol Diogelwch Sir Fynwy yn cynnwys swyddogion y Cyngor Sir megis Priffyrdd, Trwyddedu, Rheoli Adeiladu ac Iechyd yr Amgylchedd ynghyd â’r Heddlu, y Gwasanaeth Tân a’r Gwasanaeth Ambiwlans.

Gellir gofyn i grwpiau perthnasol eraill ynychu’r Grwp os oes angen mwy o gyngor ar gyfer fdigwyddiad.

Fel trefnydd digwyddiad, fe’ch cynghorir i sicrhau diogelwch y cyhoedd hyd eithaf eich gallu. Drwy gysylltu â’r Grwp Ymgynghorol Diogelwch byddant yn rhoi help a chyngor ar y digwyddiad ac yn rhoi help i chi ar gwblhau eich asesiad risg. Gallant helpu ar faterion megis cau ffyrdd, rheoli traffig, cynlluniau gweithredol, mynediad i’r anabl ac ati.

Mae’r grwp yn cyfarfod unwaith y mis fel arfer. Fodd bynnag, gall hyn newid yn dibynnu ar yr angen i hyrwyddo lefelau uchel o ddiogelwch a lles mewn digwyddiadau. Ni chodir tâl am ganllawiau ar y cam cynllunio. Fodd bynnag, gall rhai gwasanaethau godi tâl megis presenoldeb yr Heddlu yn y digwyddiad.

Sut mae hysbysu’r Grwp Ymgynghorol Diogelwch am y digwyddiad?

Digwyddiad bach

Fel trefnydd digwyddiad, fe’ch cynghorir i hysbysu’r grwp o leiaf 6 mis cyn y digwyddiad os yw’n ddigwyddiad bach yn cynnwys llai na 499 o bobl. Fodd bynnag, bydd y Grwp Ymgynghorol Diogelwch yn derbyn yr hysbysiad mewn rhai amgylchiadau os na fedrir cyflawni’r amserlen yma. I hysbysu’r grwp llenwch y ffurflen hysbysu digwyddiadau bach a’i dychwelyd i’r adran drwyddedu.

Digwyddiad mawr

Ar gyfer digwyddiadau mwy gyda dros 500 o bobl, gall fod angen ystyried materion yn llawer mwy manwl. O’r herwydd, cynghorir trefnwyr digwyddiadau i hysbysu’r grwp o leiaf 12 mis cyn y digwyddiad. Fodd bynnag, er budd diogelwch, bydd y Grwp Ymgynghorol Diogelwch yn derbyn hysbysiad mewn rhai amgylchiadau os na fedrir cyflawni’r amserlen yma. I hysbysu’r grwp llenwch y ffurflen hysbysu digwyddiadau mawr a’i dychwelyd i’r adran drwyddedu.

Gall trefnwyr digwyddiadau mawr fod eisiau cyfeirio at:

  • Canllawiau diogelwch digwyddiadau mawr – Canllawiau ar iechyd, diogelwch a lles mewn digwyddiadau cerddoriaeth a digwyddiadau tebyg (cyfeirir ato’n aml fel y Canllaw Porffor). ISBN 9780717624539
  • Rheoli torfeydd yn ddiogel – Canllaw i drefnwyr digwyddiadau

Sut gallaf gysylltu ag aelodau’r Grwp Ymgynghorol Diogelwch?

Gallwch gysylltu ag unrhyw aelod o’r Grwp Ymgynghorol Diogelwch i gael mwy o help a chymorth.