Skip to Main Content

Os ydych yn rhiant â phlentyn sydd ar fin dechrau ym mlwyddyn 7 yn yr Ysgol Uwchradd ym mis Medi ac os oes ganddynt hawl i dderbyn Prydau Ysgol Am Ddim, bydd hawl gennych dderbyn grant gwisg ysgol o £100.00 sy’n cael ei adolygu’n flynyddol.

I gael ffurflen gais ar gyfer prydau ysgol am ddim cysylltwch â’r Uned Mynediad ar gyfer Ysgolion a Myfyrwyr ar:

schoolandstudentaccessunit@monmouthshire.gov.uk
Er mwyn i chi ei hawlio, rhaid eich bod chi, fel rhiant neu ofalwr, yn derbyn un o’r canlynol:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
  • Cymorth dan ran VI Deddf Mewnfudo a Cheisio Lloches 1999
  • Credyd Treth Plant ac nid Credyd Treth Gwaith ac incwm y cartref yn llai na £16,190
  • Elfen wedi’i gwarantu o Gredyd Pensiwn y Wladwriaeth

Noder os gwelwch yn dda bod Grant Dillad ar gyfer Blwyddyn 7 i blant sydd yn dechrau ym Mlwyddyn 7 yn unig, ni ellir ei drosglwyddo i unrhyw flwyddyn ysgol arall.