Skip to Main Content

Mae amrywiaeth o wasanaethau ar gael yn Sir Fynwy i helpu pobl gydag amhariad synhwyraidd i gadw cymaint o annibyniaeth a rheolaeth dros eu bywydau ag sydd modd. Yma dywedwn wrthych am y gwasanaethau a sut i gael mwy o wybodaeth amdanynt.

Amhariad synhwyraidd yw’r term a ddefnyddir i gynnwys pobl sydd yn:

  • Dall/ag Amhariad ar eu Golwg
  • Byddar/ag Amhariad ar eu Clyw
  • Byddar a Deall (amhariad synhwyrydd deuol)

Sut y gallwn eich helpu?

Gall Gweithwyr Cymdeithasol roi cyngor, cefnogaeth, gwybodaeth a chwnsela. Gallant eich helpu chi, eich teulu ac unrhyw ofalwyr yn y meysydd dilynol:

  • Gwasanaethau i’ch helpu yn eich cartref eich hun e.e. gofal dydd, pryd ar glyd, gofal cartref ac ati
  • Cyngor a gwybodaeth ar fudd-daliadau y gallech fod â hawl iddynt
  • Manylion sefydliadau gwirfoddol a grwpiau hunangymorth
  • Cysylltiadau gydag asiantaethau eraill i’ch helpu i fyw mewn modd annibynnol e.e. cyflogaeth, adsefydlu a gwasanaethau addysg
  • Gweithgareddau yn ystod y dydd
  • Lleoliad mewn cartref preswyl neu gartref gofal nyrsio os ydych ei angen
  • Darparu gwybodaeth i’ch helpu i ymdopi ar sail ddyddiol

Gallwch chi a’ch gweithiwr cymdeithasol weithio allan pa wasanaethau all roi’r help i chi yr ydych ei angen.

Rhai o’r gwasanaethau a all fod ar gael i chi yw:

Gwasanaethau Adsefydlu

Gall y Swyddog Adsefydlu gynnig help ymarferol gyda phroblemau pan maent yn digwydd. Gall hyn fod yn gyngor a hyfforddiant mewn symudedd, byw o ddydd i ddydd neu sgiliau cyfathrebu.

Therapyddion Galwedigaethol Cymunedol

Gall Therapyddion Galwedigaethol roi help a chyngor i chi yn y ffyrdd dilynol:

  • Eich cynghori ar ffyrdd newydd o wneud rhywbeth, neu eich helpu i ail-ddysgu sgiliau a gollwyd a hefyd ddysgu sgiliau newydd
  • Argymell offer arbennig a threfnu ei ddarparu os yn briodol
  • Cynghori ar addasiadau ac argymell ffynonellau o help ariannol
  • Rhoi gwybodaeth am asiantaethau neu wasanaethau eraill a allai eich helpu, a chysylltu gyda hwy drosoch
  • Os ydych angen, gallwch eich rhoi mewn cysylltiad gyda help proffesiynol arall a ddarparwyd gan un ai sefydliadau gwirfoddol neu statudol

Sut y gallaf gael cymorth?

Os credwch y gallwn helpu, gallwch gysylltu â gweithiwr cymdeithasol drwy ysgrifennu, ffacsio, ffonio neu ymweld ag un o’n swyddfeydd. Gallech hefyd ofyn i rywun arall wneud hyn drosoch. Byddwn yn trefnu i weithiwr cymdeithasol ymweld â’ch cartref i ddweud pa help y gallem ei roi.