Skip to Main Content

Mae @ssistivetech (Careline gynt) yn wasanaeth lleol, sy’n cynnig cymorth personol i bobl yn Sir Fynwy. Yn fwy na gwasanaeth, mae @ssistivetech yn helpu pobl i deimlo’n ddiogel yn eu cartrefi eu hunain, gan wybod bod staff cyfeillgar a chymwynasgar ar gael unrhyw adeg o’r dydd, unrhyw ddiwrnod o’r flwyddyn.

Mrs H: ‘Mae @ssistivetech yn sicr wedi bodloni fy nisgwyliadau ac wedi rhoi ymdeimlad o sicrwydd i mi’.

Gofalwyr am Mr B: ‘Mae’r gwasanaeth yn rhoi tawelwch meddwl iddo ef a ninnau, mae’r staff yn wych ac mae’r gwasanaeth yn ei alluogi i aros gartref, sef yr hyn y mae ei eisiau’.

Mrs W: ‘Roedd y broses o osod yr offer yn ardderchog’. Mrs S: ‘Mae’n rhoi mwy o hyder i mi a llai o ofn ynghylch methu â chysylltu ag unrhyw un pe bawn i’n cwympo’.

Mrs D, sy’n 83, byw yng Nghil-y-coed

Gosodwyd y larwm ‘Lifeline’ yn dilyn pryderon am ei hiechyd cyffredinol.

Cadarnhaodd adolygiad fod Mrs D yn hapus iawn gyda’r offer ac amlinellodd ei fod yn gwneud iddi deimlo’n fwy diogel yn byw gartref. Mae hi’n ffodus i gael cymorth gan ei theulu, ac mae’r gwasanaeth hwn hefyd yn rhoi sicrwydd iddynt gan wybod, ar adegau pan na allant ymweld â hi, y gallai bwyso ar ei larwm i alw am help pe bai unrhyw broblemau. Ers gosod y ‘Lifeline’, mae hi wedi cael achos i wasgu’r larwm ychydig o weithiau adeg argyfyngau, ac roedd wedi cael sicrwydd bod gweithredwr y ganolfan reoli yn gallu galw am feddyg ac ambiwlans ac yn medru  trosglwyddo

ei holl wybodaeth feddygol. Galwodd y gweithredwr aelod o’r teulu hefyd a ddaeth ati ac arhosodd gyda hi tra’r oeddent yn aros i’r gwasanaethau brys gyrraedd. Mae ganddi hefyd flwch diogel i gadw allweddi ac mae’r gwasanaethau brys wedi’i ddefnyddio unwaith pan nad oedd ei theulu ar gael i fynychu, ac roedd caniatáu’r ganolfan reoli i  ddarparu’r cod o dan yr amodau hyn yn ddefnyddiol iawn pan nad oedd ei theulu ar gael. Mae’r gwasanaeth yn galluogi Mrs D i fyw’n ddiogel ac yn annibynnol heb unrhyw angen am ymyrraeth gofal cymdeithasol arall. Mae cael y larwm yn rhoi hyder iddi y gallai ganu’r larwm ar unwaith pe bai angen gwneud hynny ar unrhyw adeg o’r dydd, ac unrhyw ddiwrnod o’r flwyddyn ac mae’n ddiolchgar iawn am hynny.

Mary, Sy’n 86 oed, o’r Fenni

Mae Mary wedi byw yn y Fenni ar hyd ei hoes ac mae ganddi lawer o atgofion melys o’r dref.

Mae offer @ssistivetech yn ei helpu hi a’i theulu i deimlo’n fwy diogel ac annibynnol gan wybod bod help wrth law pe bai ei angen. Mae Mary wedi cwympo o’r blaen, ac wedi iddi gwympo yn ddiweddar, bu’n rhaid iddi fynd i’r ysbyty  ar ôl torri ei phelfis. Oherwydd y risg gynyddol o gwympo, mae Mary wedi cael synhwyrydd codymau ers hynny. Mae hyn nid yn unig yn caniatáu i Mary alw am help wrth wasgu botwm, ond mae’r synhwyrydd  yn ffonio’r gweithredwr yn awtomatig os yw’n credu bod unigolyn wedi cwympo. Mae’r rhybudd yn hysbysu’r gweithredwr os yw’r larwm wedi ei wasgu neu os yw unigolyn wedi cwympo,  ac felly’n dilyn y protocol cywir.   Ar ôl byw yn ei fflat ers blynyddoedd lawer, mae Mary eisiau parhau i fyw yno. Mae darparu Larwm ‘Lifeline’ gyda’r synhwyrydd cwympiadau yn cyfrannu rhywfaint at ddarparu’r sicrwydd a’r tawelwch meddwl sydd ei angen ar Mary i barhau i fyw yn ei chartref ei hun