Skip to Main Content

Gofal cartref

Beth yw gofal yn y cartref?

Os ydych yn oedrannus neu’n anabl ac angen cymorth a chefnogaeth gyda thasgau dyddiol fel bwyta, cael bath, mynd i’r ty bach, mynd i’r gwely a chodi, gwisgo a dadwisgo, ac am aros yn eich cartref eich hun, efallai y medrwn eich helpu drwy ddarparu gweithiwr gofal yn y cartref.

Fe ddylech chi neu aelod o’ch teulu gysylltu â’ch siop un stop lleol i drefnu asesiad gofal.

Yr asesiad

Bydd yr asesiad yn canfod pa elfen o ofal cartref fydd orau i fodloni’ch anghenion. Bydd y wybodaeth yr ydym yn ei chasglu yn ystod yr asesiad yn ein helpu i lunio cynllun gofal sydd wedi ei fwriadu i fodloni’ch anghenion a’ch helpu i aros mor annibynnol â phosibl, gyhyd ag sy’n bosibl.

Os ydych yn yr ysbyty byd staff meddygol yn gofyn i weithiwr gofal cymdeithasol siarad â chi.

A oes angen i mi dalu am ofal cartref?

Ar ôl i ni gwblhau asesiad gofal, byddwn yn trefnu asesiad ariannol i gyfrifo a oes angen i chi dalu, ac os felly, faint. Byddwn hefyd yn sicrhau eich bod yn derbyn yr holl fudd-daliadau y medrwch eu hawlio.

Pwy fydd yn darparu fy Ngofal Cartref?

Bydd eich Gofal Cartref yn cael ei ddarparu naill ai gan Wasanaethau Gofal Cartref y Gwasanaethau Cymdeithasol ei hun neu fudiad annibynnol sydd â chytundeb gyda’r Gwasanaethau Cymdeithasol. Gwneir penderfyniad ynglyn â hyn yn ôl nifer y gweithwyr Gofal Cartref yn eich ardal pan fydd eich Cynllun Gofal yn cael ei drefnu. Yr un yw’r ffioedd am Ofal Cartref pa bynnag fudiad fydd yn darparu’r gwasanaeth.

Beth os bydd fy anghenion yn newid?

Ar ryw adeg efallai y byddwch yn teimlo bod angen mwy neu lai o ofal arnoch. Os byddwch yn cysylltu â’ch Gwasanaethau Cymdeithasol lleol byddwn yn gofyn i Weithiwr Cymdeithasol ymweld â chi. Yna, byddwn yn ailasesu’ch anghenion, a, lle’n briodol byddwn yn addasu nifer yr oriau yr ydych yn eu derbyn.

Cymorth pellach

Os nad ydych yn gymwys i dderbyn pecyn gofal, gallwch gyflogi gweithiwr gofal drwy asiantaeth breifat. Gwyliwch eich bod yn dewis asiantaeth sydd wedi cofrestru ac yn cael ei arolygu gan y Comisiwn Ansawdd Gofal.

Cynlluniau’r Dyfodol

Mae’r angen am Ofal Cartref yn cynyddu’n gyflym ac rydym ar hyn o bryd yn adolygu ffyrdd o wella’r gwasanaeth yr ydym yn ei gynnig. Bydd y wybodaeth yn cael ei diweddaru pan gytunir ar y gwelliannau.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’ch siop un stop leol.

Cartrefi gofal preswyl

Efallai bod newid wedi digwydd yn eich bywyd, neu fywyd perthynas, sy’n golygu eich bod yn dechrau meddwl am wasanaethau cartrefi gofal.

Gall symud o’ch tŷ fod yn gam mawr. Cewch eich annog i feddwl am yr hyn mae’n ei olygu, a siarad â phobl sy’n agos atoch.

Fe allwch gysylltu â’ch swyddfa ardal leol am wybodaeth.  Ni does rhaid i chi gysylltu â’r Gwasanaethau Cymdeithasol os ydych chi neu’ch teulu yn fodlon talu’r swm yn llawn am eich gofal ac yn dymuno gwneud eich trefniadau eich hun. Pan fyddwch yn cysylltu â ni, byddwn ni ac eraill sy’n gysylltiedig â’ch gofal yn cytuno gyda chi os mai cartref gofal yw’r opsiwn gorau. Gelwir hyn yn asesiad. Yna byddwn yn eich helpu i ddewis cartref gofal sydd orau ar gyfer eich anghenion chi.

I’ch helpu i ddewis cartref delfrydol, mae’r Uned Cofrestru ac Arolygu yn cynnig adroddiadau arolwg diweddar ar gyfer y cartrefi o’ch dewis. Mae’r adroddiadau hyn yn ddogfennau cyhoeddus a chewch eich annog i edrych ar gymaint ag y mynnwch. Ni chodir tâl arnoch i weld yr adroddiadau hyn.

Dylech gysylltu â’r cartrefi i drefnu ymweliad a chael golwg o’u cwmpas.  Ceisiwch ymweld â mwy nag un cartref er mwyn eu cymharu.

Darllenwch ganllaw cartrefi gofal yn Sir Fynwy.  Mae’r canllaw yn darparu gwybodaeth am gartrefi gofal a gymeradwywyd gan Wasanaethau Cymdeithasol Sir Fynwy.

Fe gewch y cartrefi gofal hyn ac eraill yng Nghymru ar wefan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) ynghyd ag adroddiadau arolwg pob cartref.

A oes unrhyw grwpiau eraill a all fy helpu?

Mae cyrff gwirfoddol a all eich helpu pan fyddwch yn dewis eich cartref preswyl neu gartref nyrsio, ac ar ôl i chi ymgartrefu yn eich cartref.

Gall grwpiau fel Age Cymru, Cynhalwyr Cymru a’r Gymdeithas Trigolion a Pherthnasau fod yn weithredol yn ardal y cartref o’ch dewis.  I gael gwybod mwy, gofynnwch i’r gweithiwr cymdeithasol neu aelod o staff yn y cartref.

Talu am gartref gofal

Mae asesiad yn rhad ac am ddim, ond bydd rhaid i chi dalu rhywbeth tuag at eich cartref gofal. Gweler ein tudalen ‘talu am eich cartref gofal’.  Bydd eich asesiad yn cynnwys eich amgylchiadau ariannol.

 


Taliadau i Ddarparwyr

Os ydych yn gartref preswyl neu gartref nyrsio a Chyngor Sir Fynwy yn lleoli trigolion gyda chi, gallwch gyflwyno’ch anfoneb pedair-wythnos yn electronig drwy lenwi ffurflen anfoneb breswyl/nyrsio.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu angen cymorth pellach, mae croeso i chi gysylltu â thîm Cyllid y Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai ar 01633 644596.