Skip to Main Content

Rydym yn rheoli enwi strydoedd ac enwi a rhifo adeiladau o fewn Sir Fynwy dan Adrannau 17-19 Deddf Iechyd Cyhoeddus 1925. Mae gennym gyfrifoldeb statudol i sicrhau y caiff unrhyw enwau a/neu rifau  stryd ac eiddo newydd neu a newidiwyd eu dyrannu mewn modd rhesymegol a chyson.

Nid oes gan y Post Brenhinol bŵer statudol i enwi stryd, enw neu rif eiddo neu ailenwi neu ail-rifo eiddo; fodd bynnag, dim ond y Post Brenhinol sydd â’r grym i roi neu newid codau post unwaith y bydd y cyngor wedi cadarnhau manylion y cyfeiriad.

Mae rheoleiddio cyfeiriadau eiddo o fewn y sir yn sicrhau cadw cysondeb a chywirdeb ac mae’n helpu gyda darparu gwasanaeth ac yn bwysicaf oll yn sicrhau y gall gwasanaethau argyfwng ganfod y cyfeiriad. Daw cyfeiriadau eiddo ar gyfer dibenion canfod lleoliad yn gynyddol bwysig mewn sir wledig fel Sir Fynwy lle nad oes enwau stryd swyddogol ar lawer o ffyrdd.

Ydych chi angen Enwi a Rhifo Stryd?

Mae angen y gwasanaeth Enwi a Rhifo Stryd os:

  • ydych wedi adeiladu eiddo newydd
  • ydych wedi newid eiddo fel ysgubor i fod yn annedd, neu un eiddo yn fflatiau.
  • ydych yn dymuno ail-enwi eich eiddo
  • ydych yn dymuno ychwanegu enw i eiddo sydd â rhif ar hyn o bryd
  • ydych wedi adeiladu datblygiad newydd o fwy nag un annedd. Gall hyn gynnwys enwi unrhyw ffyrdd o fewn y datblygiad
  • ydych yn dymuno newid gweddlun datblygiadau newydd sydd eisoes wedi mynd drwy’r broses enwi a rhifo
  • yw preswylwyr y dymuno ail-enwi stryd bresennol
  • ydych angen cadarnhad o gyfeiriad

Daeth costau am y gwasanaethau uchod i rym ar 1 Ebrill 2016.

Fe’ch cynghorir yn gryf i wneud unrhyw gais am Enwi a Rhifo Strydoedd ar gyfer eiddo newydd cyn gynted ag sy’n bosibl yn y broses ddatblygu. Bydd hyn yn rhwystro unrhyw ohiriad wrth gael gwasanaethau ar gyfer yr eiddo.

Byddir yn ymgynghori gyda’n Tîm Rhestri Enwau Tir ac Eiddo i gael sylwadau ar y cyfeiriad ac yn neilltuol os yw’r enw a/neu rif a awgrymir yn addas ar gyfer yr eiddo.  Ni ddylai’r enw a awgrymir fod yn rhy debyg i gyfeiriadau eraill yn y sir i osgoi dryswch rhyngddynt a fyddai’n amharu ar y gwasanaethau dosbarthu ac argyfwng – gorau po fwyaf unigryw yw’r enw.

Caiff yr holl enwau ffordd a awgrymir ar gyfer datblygiad eu trosglwyddo am ymgynghoriad i’n Tîm Rhestr Enwau Tir, ac Eiddo, Cynghorwyr Sir a Chyngor Cymuned/Tref ar gyfer yr ardal honno a’r Post Brenhinol i gael sylwadau ar eu haddasrwydd. Y Cynghorau Tref/Cymuned fydd â’r gair olaf ar unrhyw enwau ffyrdd cyn belled â bod yr enwau hynny’n diwallu’r meini prawf a nodir ym Mholisi a chanllawiau Enwi a Rhifo Strydoedd Cyngor Sir Fynwy.

Fel Sir, mae gan Sir Fynwy gefndir hanesyddol sylweddol ac felly i sicrhau cadw’r dreftadaeth yma, rhoddir ffafriaeth i enwi cynlluniau gyda chyd-destun hanesyddol neu leol.

Mae’r Polisi a Chanllawiau Enwi a Rhifo Strydoedd yn rhoi canllawiau manwl ar y Gwasanaeth Enwi a Rhifo Strydoedd a ddarperir gan Gyngor Sir Fynwy. Anogwn bob unigolyn, datblygwyr a sefydliad sy’n defnyddio ein Gwasanaeth Enwi a Rhifo Strydoedd i ddarllen y Polisi a’r Canllawiau i sicrhau fod eu cais yn gywir gan y bydd hyn yn golygu y cedwir yr amserlen ar gyfer y broses mor isel ag sydd modd. Ni chaiff unrhyw gais nad yw’n cydymffurfio â’r Polisi ei dderbyn na’i brosesu.

Os dymunwch gael cyfeiriad neu newid cyfeiriad eiddo, dylid llenwi ffurflen gais a’i hanfon at

highways@monmouthshire.gov.uk