Rydym yn helpu perchnogion cartrefi gwag i ddod â’u heiddo’n ôl i gael eu defnyddio. Lle mae perchnogion yn gwrthod mynd i’r afael â’u heiddo gwag bydd y cyngor, fel dewis olaf, yn defnyddio eu pwerau gorfodi i drafod unrhyw broblemau amgylcheddol y mae’r eiddo yn ei achosi. Mae hyn yn beth prin iawn gan y bydd rhan fwyaf o berchnogion yn dewis mynd â’r maen i’r wal a chael trefn ar eu heiddo gwag heb unrhyw ymyriad gan y Cyngor. Felly mae’n werth chweil cysylltu os ydych yn bryderus am eiddo gwag yn agos atoch chi.
Gall cartrefi gwag:
- achosi niwsans i gymdogion
- bod yn beryglus
- denu fandaliaid ac ymddygiad gwrthgymdeithasol
- gostwng gwerth cartrefi cyfagos
Os ydych eisoes wedi cofrestru drwy ddefnyddio ap Fy Sir Fynwy, sydd ar gael ar hyn o bryd ar ddyfeisiau Apple, Android a Windows gallwch ddefnyddio’r un cyfeiriad e-bost a chyfrinair i fewngofnodi.