Skip to Main Content

Gallwch roi gwybod yn gyfrinachol, ond wrth gofrestru eich manylion fe allwch olrhain cynnydd yr hyn yr ydych wedi ei adrodd, a derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am y mater wrth iddo gael ei brosesu.

Os ydych eisoes wedi cofrestru drwy ddefnyddio ap Fy Sir Fynwy, sydd ar gael ar hyn o bryd ar ddyfeisiau AppleAndroid a Windows gallwch ddefnyddio’r un cyfeiriad e-bost a chyfrinair i fewngofnodi.

Nid yw draeniau a charthffosydd yr un fath â’r cwteri a gridiau y gwelir ar y ffordd ac sy’n cael eu defnyddio i gyfeirio dŵr oddi ar y briffordd.

Dyma rai esboniadau o eiriau a ddefnyddir:

  • Draen – Piblinell sengl sy’n cludo carthffosiaeth annymunol a/neu ddŵr ffo wyneb o dŷ.
  • Carthffos – Piblinell sy’n cludo carthffosiaeth annymunol a/neu ddŵr ffo wyneb o fwy nag un dŷ. Gellir cael carthffosydd cyhoeddus a charthfosydd preifat.
  • Carthffos Gyhoeddus – Carthffos sydd wedi’i mabwysiadu fel carthffos gyhoeddus neu a oedd yn cael ei defnyddio cyn 1 Hydref 1937 ac felly yn gyfrifoldeb yr Ymgymerydd Statudol.
  • Carthffos Breifat – Carthffos sydd heb fod yn garthffos gyhoeddus. Fel arfer, mae carthffos breifat yn gyfrifoldeb perchennog/perchnogion yr eiddo y mae’n ei gwasanaethu. Gall ddal i fod yn garthffos breifat o dan y briffordd gyhoeddus nes iddi ymuno â’r garthffos gyhoeddus.
  • Ymgymerydd Statudol – Dyma’r cwmni dŵr a charthffosiaeth. Yn Sir Fynwy, Dŵr Cymru yw’r cwmni hwn.
  • Cwteri y Priffyrdd a gridiau ar y ffyrdd – Nid yw’r rhain yr un fath â charthffosydd a draeniau, a rhaid adrodd unrhyw broblem sy’n ymwneud â hwy i’r Adran Briffyrdd.

Draeniau wedi’u blocio

Os oes gennych ddraen sydd wedi’i rhwystro, byddwch fel arfer yn gwybod oherwydd na fydd eich gwastraff yn mynd pan fyddwch yn fflysio’r toiled, neu fydd cwteri y tu allan yn gorlifo. Bydd arogl hefyd yn ôl pob tebyg. Mae draeniau/carthffosydd preifat yn gyfrifoldeb perchen-feddiannydd yr eiddo ac unrhyw eiddo arall sy’n gysylltiedig ag ef.

Gall draeniau gael eu blocio oherwydd:

  • eu bod mewn cyflwr gwael ac nid yw’r cynnwys arferol yn cael eu clirio
  • eu bod mewn cyflwr boddhaol ond maent wedi cael eu cam-drin trwy fflysio cewynnau tafladwy neu eitemau eraill fel bagiau plastig na ddylid byth eu rhoi yn y system garthffosiaeth
  • eu bod yn cael eu defynddio ar gyfer gwaredu gormod o frasterau ac olewau coginio, ynghyd â chynhyrchion eraill yn y cartref a deunyddiau DIY fel plastr
  • bod gwreiddiau coed wedi mynd i mewn i ddraen sydd wedi torri

Cyfrifoldeb am ddraenio

Dylech roi gwybod am unrhyw broblemau draenio i’r sawl neu’r sefydliad sy’n gyfrifol am y ddraen/carthffos sydd wedi’i blocio.

Os oes effaith ar sawl eiddo, mae’n debygol y bydd y broblem yn y garthffos (y bibell ddraenio ‘a rennir’). Bydd y canlynol yn eich helpu i weithio allan a yw’r broblem mewn carthffos gyhoeddus neu breifat a phwy sy’n gyfrifol amdani.

Os adeiladwyd yr eiddo cyn 1 Hydref 1937 ac mae yna dau neu fwy eiddo wedi’u cysylltu â’r darn o ddraen/carthffos sy’n cael ei effeithio, Dŵr Cymru sy’n gyfrifol am glirio’r rhwystr.

O ran eiddo a adeiladwyd ar ôl 1 Hydref 1937, mae pob draen/carthffos yn gyfrifoldeb perchen-feddiannydd yr eiddo ac unrhyw eiddo arall sy’n gysylltiedig ag ef, oni bai bod problem gyda’r brif garthffos.

Mae Dŵr Cymru hefyd yn edrych ar ôl y rhwydwaith o garthffosydd cyhoeddus yn Sir Fynwy. Os ydych yn byw yn Sir Fynwy ac yn cael problem gyda charthffos, cysylltwch â Kelda ar 0800 085 3968.

Os mai un eiddo yn unig sy’n cael ei effeithio, y tebygolrwydd yw mai draen breifat yw’r broblem, ac mae hon yn gyfrifoldeb y perchen-feddiannydd i’w chynnal a’i chlirio. Os yw’r eiddo’n cael ei rentu (e.e. gan Gymdeithas Tai), yna cyfrifoldeb y landlord ydyw.

Os oes problem gyda chwteri ffyrdd neu ddraenio tir, cysylltwch â’r adran briffyrdd.

Beth ddylwn i ei wneud os wyf yn gyfrifol am ddraen sydd wedi’i blocio?

Os ydych yn siŵr mai eich tŷ chi yw’r unig un sy’n cael ei effeithio, ac rydych yn meddwl mai chi sy’n gyfrifol am y ddraen, bydd angen i chi gysylltu ag arbenigwr am glirio draeniau. Fel arfer, maent yn ceisio clirio’r rhwystr yn gyntaf trwy ddefnyddio chwythell dŵr dan bwysedd uchel. Os nad ydych yn siŵr ai eich draen chi yw’r unig un sydd wedi’i blocio, ceisiwch siarad â’ch cymdogion i weld a ydynt yn cael problemau tebyg. Os ydych yn dal yn ansicr ynghylch ai eich eiddo chi yw’r unig un sy’n cael ei effeithio, cysylltwch â’ch swyddfa leol iechyd yr amgylchedd.

Dewis contractwr arbenigol

Ni allwn roi cyngor ar ba gontractwr i’w ddefnyddio. Gallwch ddod o hyd i gontractwyr yn y Tudalennau Melyn, Thompsons, neu gyfeirlyfrau masnach eraill o dan “drainage and pipe cleaning”. Cyn iddynt ddod i’ch gweld chi, gofynnwch a ydynt yn codi tâl am gael eu galw allan, a beth mae’r tâl hwn yn debyg o fod. Gellir clirio sawl math o rwystrau trwy ddefnyddio gwialen neu ddŵr dan bwysedd uchel. Os na all y contractwyr glirio’r rhwystr, ac maent yn dweud wrthych bod angen gwaith cloddio er mwyn codi’r bibell, gwnewch yn siŵr eu bod yn dweud wrthych yn union yr hyn y bwriadant ei wneud, a faint bydd yn ei gostio, cyn iddynt ddechrau ar y gwaith.

A fydd fy yswiriant adeilad yn talu am unrhyw gostau?

Efallai y bydd problemau ynglŷn â draeniau neu garthffosydd sy’n cael eu cynnwys o fewn polisi yswiriant, ond gofynnwch i’ch cwmni yswiriant adeilad cyn i chi ffonio contractwr.

Mae fy nghymdogion yn cael eu heffeithio hefyd, ond rwy’n cael problemau gyda nhw. Beth ddylwn i ei wneud?

Mae fy nghymdogion yn cael eu heffeithio, ond ni fydd rhai ohonynt yn cytuno i dalu am y gwaith sydd ei angen, neu ni allaf gysylltu â nhw, neu nid ydym yn gwybod pa dai sy’n gysylltiedig â’r ddraen breifat. Beth ddylwn i ei wneud?

Ffoniwch tîm iechyd yr amgylchedd. Mae gennym bwerau i orfodi clirio draen neu garthffos. Efallai y bydd angen gwneud trefniadau i glirio’r rhwystr ac adennill y gost gan y deiliaid tai dan sylw. Mae hyn yn gwneud y sefyllfa yn llawer mwy ffurfiol ac yn gostus i bawb sy’n gysylltiedig, gan y bydd treuliau’r cyngor yn cael eu hychwanegu at y bil. Felly, mae’n well i ddeiliaid tai drefnu’r gwaith gyda’i gilydd.

Sut i osgoi blocio draeniau

Peidiwch â chael gwared o fraster neu saim, olew gwastraff, gweddillion paent a golchiadau sment ac ati trwy eu rhoi i lawr eich draeniau. Dylai’r deunyddiau hyn a rhai tebyg gael eu gwaredu yn eich safle amwynder lleol.

Peidiwch â phlannu coed neu lwyni yn agos at eich draeniau, gan yr aiff gwreiddiau i mewn i’r draeniau drwy gymalau’r bibell ac yn y pen draw achosi difrod mawr.

Peidiwch â rhoi braster neu olew yn eich system ddraenio. Defnyddiwch bapur cegin i lanhau braster ac olew oddi ar eich offer coginio, gan roi’r papur yn y bin wedyn. Yna defnyddiwch lawer o lanedydd a dŵr poeth ar eich offer.

  • Peidiwch byth â rhoi cewynnau, padiau anymataliaeth neu dywelion mislif i lawr y toiled.
  • Peidiwch byth â gadael rwbel, teganau plant neu wrthrychau eraill i ddisgyn i mewn i siambr archwilio.
  • Peidiwch byth â chuddio siambr archwilio.
  • Gwiriwch fod eich gorchuddion arolygu yn hygyrch ac mewn cyflwr da.

Gorfodi deddfwriaeth draenio statudol

Mae gennym ddyletswydd statudol, er lles iechyd y cyhoedd, i sicrhau bod draeniau sydd wedi’u blocio neu sy’n drewi yn cael eu clirio a, lle bo’n briodol, i godi pris y gwasanaeth hwn ar y deiliaid tai. Ar ôl cyflwyno rhybudd, bydd unrhyw gost yn cael ei rhannu’n gyfartal rhwng pob cartref sy’n cael eu gwasanaethu gan y garthffos hyd at y man lle mae wedi’i rhwystro.

Gall y cyngor gamu i mewn os…
Mae cartrefi preifat sy’n cael eu gwasanaethu gan ddraen a/neu garthffosydd preifat yn methu, neu yn anfodlon, delio â’r broblem mewn ffordd ddigonol. Yn yr achosion hyn, rydym yn gallu cyflwyno Hysbysiad Cyfreithiol sy’n ei wneud yn ofynnol i’r gwaith gael ei gyflawni. Gall y gwaith gael ei wneud gan y cyngor yn niffyg ei gyflawniad gan y perchnogion. Fodd bynnag, bydd hyn yn cynnwys cost weinyddol, a bydd yn rhatach fel arfer i berchnogion ddod i gytundeb gyda’i gilydd er mwyn trefnu i’r gwaith gael ei wneud.

Mae mynediad i eiddo i ymchwilio i sefyllfa yn cael ei wrthod neu’n amhosibl. Gall swyddog awdurdodedig y cyngor fynd i mewn i’r eiddo ar unrhyw adeg resymol i asesu maint y broblem.

Mae gennym reswm i gredu bod risg i iechyd y cyhoedd yn bodoli ac mae’n annhebygol y bydd y sawl sy’n gyfrifol yn gallu neu’n barod gwneud y gwaith angenrheidiol.

Mae gennym nifer o opsiynau o ran cyflwyno hysbysiad mewn perthynas â draeniau a charthffosydd preifat, gan gynnwys Deddfau Iechyd y Cyhoedd, y Ddeddf Adeiladu a darpariaethau eraill, ond mae camau cyfreithiol yn gymhleth ac yn gallu golygu rhagor o gostau ac oedi. Ni ddylid cymryd camau cyfreithiol fod yn angenrheidiol lle bo perchnogion yn ymwybodol eu bod yn rhannu perchnogaeth, a bydd gwaith clirio ac atgyweirio yn gyflymach ac yn rhatach os gallant gytuno i gynnal gwaith a rhannu costau rhyngddynt yn deg.