Skip to Main Content

Cymorth i deuluoedd mewn profedigaeth

Gweithwyr Cymorth mewn Argyfwng

Rydym yn cymryd ein cyfrifoldeb i ofalu am y gymuned ar adeg digwyddiad mawr yn ddifrifol iawn. Er enghraifft, rydym yn darparu cyfleoedd hyfforddi ac ymarfer er mwyn sicrhau bod staff priodol yn hollol barod i gyflawni eu rolau mewn argyfwng.

Ar adeg digwyddiad mawr, pan fydd Swyddogion Cyswllt â Theuluoedd yr Heddlu yn cael eu hanfon at deuluoedd lleol sydd wedi cael profedigaeth, ni yw un o nifer o awdurdodau yn y DU sydd wedi hyfforddi staff, o’r enw Gweithwyr Cymorth mewn Argyfwng, i weithio ochr yn ochr â hwy.

Mae Gweithwyr Cymorth mewn Argyfwng wedi cael eu hyfforddi’n benodol i weithio yn yr amgylchiadau penodol ac anodd hyn, gan ddarparu nifer o fanteision allweddol:

  • gall y Gweithiwr Cymorth mewn Argyfwng roi gwybodaeth glir a chywir i gynorthwyo’r teulu i adnabod a mynd i’r afael â’i anghenion ymarferol, emosiynol a seicolegol
  • yna gall y Gweithiwr Cymorth mewn Argyfwng naill ai helpu’n uniongyrchol, neu roi’r teulu mewn cyswllt â phobl, asiantaethau a sefydliadau priodol eraill
  • mae gweithio gyda’r Gweithiwr Cymorth mewn Argyfwng yn ei wneud yn haws i Swyddog Cyswllt â Theuluoedd yr Heddlu ganolbwyntio’n well ar ei rôl ymchwiliol