Skip to Main Content

Os ydych yn ddigartef neu y gofynnwyd i chi adael ble’r ydych yn byw, mae’n ddyletswydd gyfreithiol ar Gyngor Sir Fynwy i roi cyngor a chymorth i chi. Y gyfraith sy’n rheoli ein holl benderfyniadau yw Deddf Tai (Cymru) 2014 yn neilltuol yr adrannau dilynol:

Adran 60 – Dyletswydd i ddarparu cymorth a chyngor

Adran 66 – Dyletswydd i helpu atal digartrefedd

Adran 68 – Dyletswydd i ddarparu llety dros dro (lle mae’r ymgeisydd yn gymwys)

Adran 73 – Dyletswydd i helpu sicrhau llety addas

Adran 75 – Dyletswydd i ddarparu llety sefydlog (lle mae’r ymgeisydd yn gymwys)

Adran 78 – Penderfynu rhoi ystyriaeth i ddigartrefedd bwriadol (bwriadoldeb) (cliciwch yma ar gyfer penderfyniad Cyngor Sir Fynwy ar fwriadoldeb).

Os cewch eich hun mewn sefyllfa lle daethoch yn ddigartref neu y byddwch yn dod yn ddigartref, dylech gysylltu â’r tîm Opsiynau Tai cyn gynted ag sy’n bosibl drwy unrhyw un o’r Hybiau Cymunedol. Os ydych angen cymorth allan o oriau, gallwch gysylltu â (01633) 644644.

Bydd y Tîm Opsiynau Tai yn dweud wrthych am eich opsiynau tai a gallant gynnig cyngor a chymorth gyda’r materion dilynol:

Chwalfa deuluol neu berthynas;

Cam-drin domestig (http://cyfannol.org.uk/ )

Ôl-ddyledion rhent;

Anghydford landlord a thenantiaeth;

Dyled a budd-daliadau;

Mynediad i lety yn y sector rhent preifat;

Mynediad i lety yn y sector rhent cymdeithasol (cymdeithasau tai) http://www.monmouthshirehomesearch.co.uk/choice

Mynediad i wybodaeth ar opsiynau tai fforddiadwy.

Rheoli tenantiaeth

Gall y Tîm Opsiynau Tai hefyd eich cyfeirio at asiantaethau eraill a all eich helpu i ddatrys eich problemau tai.

Lle’n bosibl, bydd y Tîm Opsiynau Tai yn helpu eich atal rhag dod yn ddigartref; gallai hyn gynnwys gweithio gyda chi i’ch cadw yn eich cartref presennol neu ganfod llety arall i chi ac, yn dibynnu ar eich amgylchiadau a’ch cymhwyster, gallent gynnig llety dros dro i chi. Fodd bynnag, nid oes unrhyw ddyleswydd i ddarparu llety ar gyfer pawb ac nid yw bob amser yn bosibl iddynt eich helpu yn y ffordd yr hoffent.

Penderfyniad Cyngor Sir Fynwy ar Fwriadoldeb

Datganiad i’r cyhoedd am ddigartrefedd a bwriadoldeb.

Daeth Deddf Tai (Cymru) 2014 i rym ar 27 Ebrill 2015 gan newid y ffordd y mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn trin digartrefedd.

Prif nod y Ddeddf newydd yw atal digartrefedd lle bynnag sy’n bosibl, ac mae’n galluogi’r awdurdod a’r ymgeisydd i weithio mewn partneriaeth i ddatrys eu problemau tai.

Mae’n dod yn gynyddol anodd cael mynediad i dai cymdeithasol a chydnabuwyd fod rôl ar gyfer y sector rhent preifat i gynorthwyo wrth ostwng digartrefedd. Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 yn galluogi awdurdodau lleol i weithredu eu dyletswyddau digartrefedd ac ataliaeth i lety sector rhent preifat, cyn belled â’i fod yn addas, fforddiadwy ac ar gael am dros 6 mis.

Daeth newid mawr dan y Ddeddf newydd ar lun digartrefedd bwriadol (bwriadoldeb). Nid yw bwriadoldeb bellach yn ddyletswydd gyfreithiol ond yn bŵer y gall awdurdod au lleol ddewis ei gyflwyno. Penderfynodd Cyngor Sir Fynwy y caiff bwriad ei ystyried wrth asesu anghenion tai y grwpiau dilynol:

Mae’r dilynol yn gategorïau ymgeisydd ar gyfer diben adran 78 (penderfynu i roi ystyriaeth i fwriadoldeb) –

(a) Menyw feichiog neu berson y mae’n preswylio gydag ef/hi neu y gellid yn rhesymol disgwyl iddi breswyliogydag ef/hi;

(b) Person y mae plentyn dibynnol yn preswylio ag ef/hi neu y gellid yn rhesymol ddisgwyl iddo/iddi breswylio  gydag ef/hi;

(c) Person —

(i) Sy’n agored i niwed fel canlyniad i ryw reswm arbennig (er enghraifft: henoed, salwch corfforol neu feddyliol neu anabledd corfforol neu feddyliol), neu

(ii) Y mae person sy’n dod o fewn is-baragraff (i) yn preswylio neu y gellid yn rhesymol disgwyl iddo/iddi breswylio gydag ef/hi;

(d) Person—

(i) Sy’n ddigartref neu a fygythir gyda digartrefedd fel canlyniad i argyfwng megis llifogydd tân neu drychineb arall, neu

(ii) Y mae person a ddaw o fewn is-baragraff (i) yn preswylio neu y gellid yn rhesymol disgwyl iddo/iddi breswylio gydag ef/hi;

(e) Person —

(i) Sy’n ddigartref fel canlyniad i ddioddef cam-drin domestig, neu

(ii) Y mae person a ddaw o fewn is-baragraff (i) yn preswylio (heblaw’r person sy’n cam-drin)neu y gellid yn rhesymol disgwyl iddo breswylio gydag ef/hi;

(f) Person —

(i) Sy’n 16 neu 17 oed pan mae’r person yn gwneud cais i awdurdod tai lleol am lety neu helpu i gael neu gadw llety, neu

(ii) Y mae person a ddaw o fewn is-baragraff (i) yn preswylio neu y gellid yn rhesymol disgwyl iddo/iddi breswylio gydag ef/hi

(g) Person—

(i) Sydd wedi cyrraedd 18 oed, pan mae’r person yn gwneud cais i awdurdod tai lleol am lety neu help i gael neu gadw llety, ond nid 21 oed, sydd mewn risg neilltuol o ecsbloetiad rhywiol neu ariannol

(ii) Y mae person a ddaw o fewn is-baratraff (i) yn byw (heblaw person sy’n gyfrifol am ecsbloetio neu a allai fod yn gyfrifol am ecsbloetio) neu y gellid yn rhesymol disgwy iddo/iddi breswylio gydag ef/hi;

(h) Person

(i) Sydd wedi cyrraedd 18 oed, pan mae’r person yn gwneud cais i awdurdod tai lleol am lety neu help i gael neu gadw llety, ond nid 21 oed, sydd wedi derbyn gofal, cael llety neu gael eu maethu ar unrhyw adeg pan oedd dan 18 oed, neu

(ii) Y mae person a ddaw o fewn is-baragraff (i) yn preswylio gydag ef/hi neu y gellid yn rhesymol ddisgwyl iddo/iddi breswylio gydag ef/hi;

(i) Person—

(i) Sydd wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog rheolaidd y Goron a fu’n ddigartref ers gadael y lluoedd hynny, neu

(ii) Y mae person a ddaw o fewn is-baragraff (i) yn preswylio gydag ef/hi neu y gellid yn rhesymol ddisgwyl iddo/iddi breswylio gydag ef/hi;

(j) Person sydd â chysylltiad lleol gydag ardal yr awdurdod tai lleol neu sy’n agored i niwed fel canlyniad i un o’r rhesymau dilynol —

(i) Wedi treulio dedfryd mewn dalfa o fewn ystyr adran 78 Deddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000(1),

(ii) Wedi eu cadw mewn dalfa ar remand neu wedi eu traddodi i ddalfa drwy orchymyn llys; neu

(iii) Ar ôl cael eu cadw ar remand mewn  dalfa ieuenctid dan adran 91(4) DeddfCymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012(2), neu berson y mae person o’r fath yn preswylio ag ef/hi neu ygellid yn rhesymol ddisgwyl iddo/iddo breswylio ag ef hi.

Caiff y datganiad hwn ei adolygu ddwywaith yy flwyddyn a bydd unrhyw newidiadau a wneir ar gael i’r cyhoedd eu gweld. Daw hyn i rym o 1 Gorffennaf 2015.