Skip to Main Content
Mae dechrau yn yr ysgol uwchradd yn un o’r digwyddiadau pwysicaf ym mywyd eich plentyn. Fel rhiant/gofalwr, mae’n sicr y bydd gennych ystod eang o gwestiynau am y symud yma. Os yw’ch plentyn yn mynychu blwyddyn 6 mewn ysgol gynradd ar hyn o bryd, bydd angen i chi wneud cais iddi drosglwyddo i ysgol uwchradd ym mis Medi 2024.

Bydd y broses Dderbyn ar gyfer plant sydd eisiau cael mynediad i ysgol uwchradd ar gyfer Medi 2024 yn dechrau ar 25 Medi 2023.

Rhoddir amserlen y cylch derbyn islaw:

  • Dyddiad y mae pecynnau cais ar gael: 25 Medi 2023
  • Dyddiad cau ceisiadau: 13 Tachwedd 2023 am 5pm
  • Dyddiad cynnig: 1 Mawrth 2024

Sut gallaf wneud cais?

Mae gan Gyngor Sir Fynwy system ymgeisio ar-lein sydd ar gael i chi ei defnyddio wrth gyflwyno cais eich plentyn. Mae’r system yn eich galluogi chi i weld a newid cais eich plentyn hyd at y dyddiad cau sef 13 Tachwedd 2023 am 5pm . Fodd bynnag mae’r system ar-lein wedi cau gan fod y dyddiad cau wedi mynd heibio ac felly bydd angen i chi gysylltu â’r Uned Mynediad yn defnyddio’r manylion islaw i gael ffurflen bapur

Nodiadau cyfarwyddyd i’ch helpu i gwblhau’ch cais ar-lein

Fe’ch cynghorir hefyd i ddarllen Llyfryn Dechrau Ysgol 2024-25

E-bost: accesstolearning@monmouthshire.gov.uk

Ffôn: 01633 644508

Cyfeiriad:

Cyngor Sir Fynwy

Neuadd y Sir

Y Rhadyr, Brynbuga

Sir Fynwy

NP15 1GA