Skip to Main Content

Cyflwynodd Deddf Trafnidiaeth 2000, fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Trafnidiaeth (Cymru) 2006, ofyniad statudol i awdurdodau trafnidiaeth lleol gynhyrchu Cynllun Trafnidiaeth Lleol bob pum mlynedd a’i gadw dan adolygiad.

Cynhyrchwyd Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol De Ddwyrain Cymru 2010 gan Gynghrair Trafnidiaeth De Ddwyrain Cymru (Sewta), y cydbwyllgor cynllunio trafnidiaeth rhanbarthol. Daeth Sewta, ynghyd â’r consortia trafnidiaeth arall, i ben ym Mawrth 2014 yn fuan ar ôl diwedd rhaglen cyflenwi pum mlynedd y Cynllun Trefniadaeth Lleol.

Ym mis Mai 2014 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau newydd yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol yng Nghymru gynhyrchu Cynllun Trafnidiaeth Lleol i’w gyflwyno yn Ionawr 2015. Dywedodd y canllawiau y dylid defnyddio’r Cynllun i ddiweddaru’r cynlluniau a’r blaenoriaethau a ddynodwyd yn y cynlluniau blaenorol ac integreiddio gyda Chynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol Llywodraeth Cymru.

Mae Cynllun Trafnidiaeth Lleol Sir Fynwy yn dynodi’r materion trafnidiaeth allweddol sy’n berthnasol i’r sir, yr ymyriadau lefel uchel sydd eu hangen i’w trin a’r blaenoriaethau penodol ar gyfer yr awdurdod lleol. Mae’r Cynllun Trafnidiaeth Lleol yn cynnwys rhaglen pum mlynedd o brosiectau wedi’u blaenoriaethu y mae’r cyngor yn dymuno iddynt gael eu cyflwyno rhwng 2015 a 2020 yn ogystal â nodau tymor canol a thymor hirach hyd at 2030.

Mae’r rhaglen a amlinellwyd yn y Cynllun Trafnidiaeth Lleol yn cynnwys seilwaith cerdded a seiclo, rhwydwaith bysus, gwelliannau i orsafoedd a phriffyrdd, cynlluniau Metro Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, terfynau 20 milltir yr awr a chynlluniau diogelwch ffyrdd. Yn unol â’r canllawiau, nid yw’n cynnwys cynigion penodol am wasanaethau rheilffordd a chefnffyrdd.

Bydd cyflenwi’r cynigion a nodir yn y Cynllun Trafnidiaeth Lleol yn amodol ar i gyllid digonol fod ar gael o ffynonellau grant allanol ac o gyllidebau’r Cyngor ei hun. Y Cynllun fydd y prif fan cyfeirio ar gyfer cynigion am gyllid cyfalaf blynyddol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer seilwaith trafnidiaeth.

Cafodd Cynllun Trafnidiaeth Lleol Sir Fynwy ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru ym mis Mai 2015.

Dolenni: