Skip to Main Content

Rhagor o wybodaeth am Fforwm Mynediad Lleol

Pori trwy’r cyfarfodydd a’r agendâu ar gyfer y pwyllgor hwn

Beth am ddod yn aelod o’r Fforwm Mynediad Lleol?

Oes gennych chi ddiddordeb mewn hawliau tramwy cyhoeddus a mynediad i gefn gwlad.

Mae Cyngor Sir Fynwy yn edrych am aelodau newydd ar gyfer y Fforwm Mynediad Lleol statudol.

Mae aelodaeth o’r Fforwm yn rhoi cyfle i’r rhai sydd â gwybodaeth a phrofiad o faterion mynediad cefn gwlad yn Sir Fynwy i gynghori’r cyngor a chyrff eraill ar fynediad i gefn gwlad a hamdden.

Gwirfoddolwyr yw aelodau’r Fforwm ac maent yn cynnwys amrywiaeth o bobl o’r gymuned leol, yn cynnwys tirfeddiannwyr a rheolwyr tir, defnyddwyr mynediad a’r rhai sy’n cynrychioli buddiannau eraill, megis iechyd a chadwraeth.

Mae’r Fforwm yn cwrdd bob chwarter. Mae’r rhain yn swyddi di-dâl ond gall aelodau’r Fforwm hawlio treuliau rhesymol. Bydd aelodaeth am gyfnod o 3 blynedd.

Os dymunwch gael eich ystyried ar gyfer aelodaeth gallwch gael manylion pellach gan:

Ysgrifennydd Fforwm Mynediad Lleol Sir Fynwy

Adran Cefn Gwlad
Blwch SP 106
Cil-y-coed
Sir Fynwy
NP26 9AN

Ffôn: 01633 644850

E-bost: countryside@monmouthshire.gov.uk

neu gellir lawrlwytho mwy o wybodaeth a ffurflenni cais:

Recriwtio2019.pdf

ffurflen gais.docx

Dylid dychwelyd ffurflenni ar ôl eu llenwi erbyn 18 Medi 2019